Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 7 Mehefin 2022.
Yn olaf, mae wedi dod yn amlwg mai systemau adweithiol, ar y cyfan, sydd gan y bwrdd iechyd ar hyn o bryd. Mae adolygiadau allanol wedi tynnu sylw at fylchau sylweddol mewn elfennau sylfaenol o'r safonau gwasanaethau clinigol. Mae hyn yn cynnwys cadw cofnodion, rheoli digwyddiadau, gweithio fel tîm, adrodd ar bryderon, arweinyddiaeth a morâl. Mae llawer o brosesau yn eu lle, ond does dim digon o gapasiti ynddynt a dŷn nhw ddim yn ddigon eang i gynnig sicrwydd yn y meysydd hyn ar draws y system gyfan. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ddod yn sefydliad sy'n gallu gwella ei hun, gyda staff clinigol sydd â'r sgiliau i gynnal gwelliant parhaus wrth eu gwaith o ddydd i ddydd. Rhaid i'r pwyslais hwn fod yn amlwg drwy'r sefydliad cyfan, o'r ward i'r bwrdd.
Dwi'n gofyn i'r bwrdd iechyd wneud y pethau canlynol: adolygu eu trefniadau presennol o ran llywodraethiant, archwilio ac effeithiolrwydd a gweithio gyda Gwelliant Cymru i fuddsoddi mewn rhaglen addysg a chymorth a fydd yn cael ei rhoi ar waith yn gyflym er mwyn gwella sgiliau. Dwi hefyd wedi gofyn i'r bwrdd iechyd sicrhau bod penodiad ar lefel uwch yn cael ei wneud i swydd cyfarwyddwr diogelwch a gwella. Bydd yr unigolyn hwn yn cefnogi'r cyfarwyddwr gweithredol nyrsio newydd i sicrhau bod gwelliannau a threfniadau llywodraethiant ar y cyd yn cael eu rhoi ar waith ar draws y bwrdd iechyd. Ar ben hyn, mae'n rhaid i'r bwrdd wneud yn well wrth feithrin a chynnal cysylltiad â'i staff a'r cyhoedd. Mae nifer o bryderon wedi cael eu codi am les y gweithlu, achosion o aflonyddu, bwlio a staff yn teimlo na allant godi eu llais. Mae'n rhaid i'r bwrdd adeiladu ar y gwaith sydd ar y gweill yn barod o ran datblygu sefydliadol, a rhaid iddo wneud hynny'n gyflym. Gan gadw mewn cof pa mor ddifrifol ac eithriadol yw'r trefniadau uwchgyfeirio hyn, fe fyddant yn cael eu monitro'n agos a'u hadolygu'n fuan er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud. Bydd cyfarfod tair-ochr arall yn cael ei gynnal cyn diwedd mis Hydref eleni.
Dirprwy Lywydd, mae hon yn gyfres helaeth a phellgyrhaeddol o ymrwymiadau wedi'u targedu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Byddwn yn cadw golwg cyson a chadarn ar y rhain dros y misoedd nesaf. Rhaid imi bwysleisio bod gwaith gwych yn cael ei wneud mewn ambell i fan ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Yr hyn sydd ei angen nawr yw bod yr ansawdd hwnnw'n cael ei ailadrodd ar draws y system gyfan, a hynny'n fwyaf penodol yn Ysbyty Glan Clwyd. Ond yn bwysicach fyth, mae hon yn gyfres o drefniadau a fydd yn cefnogi'r bwrdd iechyd ar ei daith i barhau i wella, fel y gall pobl y gogledd fod yn falch o'u gwasanaeth iechyd lleol. Diolch.