Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch am y datganiad. Dwi'n ofni, dim ots sut ydych chi'n edrych ar hyn, nad ydy amseru hyn heddiw ddim yn adlewyrchu'n dda ar Lywodraeth Cymru. A dweud y gwir, mae o'n dangos unwaith eto gymaint o ddiffyg dealltwriaeth a diffyg gwerthfawrogiad sydd yna yn Llywodraeth Cymru ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.