Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 7 Mehefin 2022.
Wel, os oes angen prawf, mae'r datganiad yma, yn fy marn i, yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd ar Betsi Cadwaladr. Rŷch chi'n tincro gyda'r symptomau yn lle mynd i'r afael yn fwy sylfaenol â'r salwch sy'n llethu gwasanaethau ar draws y gogledd.