Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i fynegi fy mhryder ynghylch sylw a wnaeth y Gweinidog yn awgrymu bod y datganiad hwn wedi'i gynllunio ers nifer o wythnosau? Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Busnes. Mae'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar y flaenraglen waith bob tro y byddwn ni'n cyfarfod. Ni chawsom ni wybod am unrhyw newidiadau tan heddiw o ran y datganiad hwn; ni chafodd ei gytuno arno tan heddiw. Cafodd papurau eu dosbarthu i'r Pwyllgor Busnes ddoe, gan gadarnhau'r newid hwn. Mae hynny'n awgrymu i mi y gallai'r Gweinidog fod wedi camarwain y Senedd yn anfwriadol.