Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis Hydref diwethaf, cymeradwyodd y Senedd gyfan gynnig i gefnogi'n llwyr y frwydr fyd-eang i ddileu hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol. Yn dilyn ein hymgynghoriad y llynedd, rydym wedi parhau i gyd-ddylunio gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru y camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd i fynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig. Felly, rwy'n falch o fod yn cyhoeddi heddiw 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Wrth ei wraidd mae gweledigaeth gyffredin i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030, lle mae pawb yn cael eu trin fel dinasyddion cyfartal ac yn gallu ffynnu a llwyddo.
Mae'r cynllun yn nodi'r nodau a'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y 24 mis nesaf, gan ymdrin â phob agwedd ar fywyd cyhoeddus sy'n llywio ac yn dylanwadu ar brofiad a chyfleoedd bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn parhau i gerdded yn esgidiau pobl sydd â phrofiad bywyd, a bod profiadau unigolion a chymunedau yn parhau i lunio ein ffordd o feddwl a'r penderfyniadau a wnawn. Datblygwyd y cynllun gennym drwy gynnwys pobl a chymunedau ac mewn cydweithrediad â sefydliadau ar draws pob rhan o Gymru, a bydd hyn yn parhau wrth i ni symud tuag at ei weithredu.
Er mwyn rhoi'r ffydd angenrheidiol a pharhaus bod y cynllun hwn yn cael ei weithredu, bydd grŵp atebolrwydd yn cael ei sefydlu, dan arweiniad yr Athro Emmanuel Ogbonna, o Brifysgol Caerdydd, a Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig yn bennaf, a chaiff ei gryfhau ymhellach drwy gynnwys arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth, a bydd yn elwa ar dystiolaeth a mewnwelediad a gydlynir o'n huned gwahaniaethau ar sail hil a sefydlwyd yn ddiweddar.
Roeddem yn gwybod bod angen i ni lunio'r nodau a'r camau gweithredu gyda phobl o leiafrifoedd ethnig, felly gwnaethom sicrhau bod gwerthfawrogi profiad bywyd yn un o'r gwerthoedd sy'n sail i'r ffordd y gwnaethom ddatblygu'r cynllun. Ac, yn gwbl briodol, gofynnwyd i ni hefyd gofleidio gwerthoedd dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau a bod yn agored ac yn dryloyw. Mae disgwyliadau pobl o leiafrifoedd ethnig yn glir: maen nhw eisiau gweld gweithredu sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i'w bywydau. Mae dull gwrth-hiliol yn newid sylfaenol y mae angen i ni ei fabwysiadu. Mae mabwysiadu dull gwrth-hiliol yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a ninnau i gyd fod yn rhagweithiol wrth nodi a mynd i'r afael â hiliaeth systemig ym mhob agwedd ar sut mae Cymru'n gweithio. Mae angen i ni edrych ar sut y caiff hiliaeth ei chynnwys yn ein polisïau, ein rheolau ffurfiol ac anffurfiol, a'r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn cynnwys pobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac yna gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Bydd y cynllun hwn yn chwarae rhan bwysig wrth greu Cymru unedig a thecach i bawb. Mae hwn yn ymrwymiad sydd wrth wraidd y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, gan rannu penderfyniad i fynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig yn awr, gan fod hiliaeth yn nodwedd niweidiol o brofiad bywyd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'r cytundeb gyda Phlaid Cymru hefyd yn ein hymrwymo i sicrhau bod elfennau cyfiawnder y cynllun gweithredu mor gadarn â phosibl ac yn mynd i'r afael â'r materion hyn gyda'r heddlu a'r llysoedd. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid o'r bwrdd cyfiawnder troseddol yng Nghymru i ddatblygu a sefydlu'n llawn ddull gwrth-hiliol ar y cyd o ymdrin â chyfiawnder troseddol yng Nghymru. Rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw'r profiad o hiliaeth yn cael ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Ni ddylid dal unrhyw un yn ôl na'i adael ar ôl.
Rhoddodd llawer o bobl eu hamser gwerthfawr a'u profiadau i lunio'r cynllun. Yn gynharach heddiw, ymunais â'r Prif Weinidog am foment gyda rhanddeiliaid i ddiolch i bawb am eu cyfraniad i'r gwaith hwn. Rwyf innau, gyda llawer ohonoch, eisiau cydnabod parodrwydd pobl o leiafrifoedd ethnig i ymestyn eu hymddiriedaeth i sicrhau'r posibilrwydd o newid ac i ddarparu eu harweinyddiaeth a rhannu eu profiadau bywyd i helpu i wneud y cynllun hwn yr hyn ydyw.
Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Athro Ogbonna a'r Ysgrifennydd Parhaol fel cyd-gadeiryddion y grŵp llywio am y gwaith hwn ac i holl aelodau'r grŵp llywio sydd wedi helpu i lunio ac arwain y gwaith hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd haelioni'r cyfraniadau hynny a'r hyn yr oedd pobl yn barod i'w rannu'n rhydd i sicrhau newid, yn ysbrydoledig.
Drwy'r cynllun hwn, rydym yn amlygu'r cyfraniad y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol. Er mwyn cyflawni'r nod llesiant mwy cyfartal i Gymru a chenedl wrth-hiliol erbyn 2030, bydd angen ymdrech ar y cyd. Bydd gwelliannau gwirioneddol yn deillio o newid o fewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn y rhai sydd mewn swyddi â phŵer.
Rydym yn gwneud hyn gan gydnabod yr arweinyddiaeth aruthrol o fewn y cymunedau lleiafrifoedd ethnig a'r arweinyddiaeth ar bob lefel—fel unigolion, fel arweinwyr gwleidyddol, fel gweithredwyr cymunedol, fel academyddion ac fel arweinwyr sefydliadau. Mae pobl o leiafrifoedd ethnig, ers cenedlaethau, wedi cyfrannu at bob agwedd ar ein heconomi, addysg, gofal cymdeithasol, a threftadaeth ddiwylliannol a chwaraeon, i enwi dim ond ychydig.
Gweithiodd arweinwyr a gweithredwyr gweledigaethol fel Betty Campbell gydag angerdd i fod yn enghraifft dda i weddill y byd o sut y gallwn fyw gyda'n gilydd ni waeth o ble yr ydym yn dod neu liw ein croen. Mae gwaith arloesol yr Athro Charlotte Williams yn golygu bod dysgu am dreftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth ethnig Cymru bellach yn elfen orfodol o'n cwricwlwm cenedlaethol.
Ni fyddai llawer o'n gwasanaethau allweddol, fel ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn bosibl heb i bobl o leiafrifoedd ethnig weithio ynddyn nhw, ac yn ystod COVID-19 byddem wedi bod ar goll heb y gweithlu hwn.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r arweinyddiaeth, ein hadnoddau a'n dylanwad i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol yng Nghymru. Mae hwn yn gynllun Llywodraeth gyfan, gydag ymrwymiadau a chamau gweithredu ar draws portffolios Gweinidogion ac o fewn gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Adlewyrchir hyn yn y datganiadau a wnaed heddiw gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, gan fwrw ymlaen â chamau gweithredu allweddol o fewn y cynllun gwrth-hiliol.
Rydym yn gofyn i bawb weithio gyda ni i greu Cymru wrth-hiliol, Cymru lle gallwn i gyd fod yn falch o berthyn ac y bydd pob un ohonom yn ffynnu ynddi.