8. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi system addysg wrth-hiliol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:51, 7 Mehefin 2022

Diolch, Llywydd. Fel Llywodraeth, rŷn ni’n hollol glir ein bod yn disgwyl i honiadau a digwyddiadau o fwlio a hiliaeth gael eu hymchwilio'n llawn, ac i gamau gael eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r mater, i atal achosion pellach rhag digwydd. Rŷn ni wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod ein hysgolion yn gynhwysol ac yn groesawgar i bob disgybl. Gwnes i bwysleisio hyn yn ddiweddar yng nghyd-destun achos Raheem Bailey, a'i fod yn bwysig cynnig cymorth i'r teulu ac i gymuned yr ysgol, a fydd hefyd wedi cael eu heffeithio.  

Llywydd, mae gan ein system addysg rôl a chyfrifoldeb hanfodol i helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Rŷn ni'n gwybod bod yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddysgu yn yr ysgol yn aros gyda nhw am weddill eu hoes ac yn llunio ein cymdeithas ehangach.

Mae 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn amlinellu nifer helaeth o nodau a chamau gweithredu i ymgorffori diwylliant gwrth-hiliol mewn ysgolion, a hynny er mwyn gwneud newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol. Mae'r cynllun hefyd yn dwyn ynghyd gwaith ar draws y maes addysg, sy’n cynnwys diweddaru canllawiau gwrth-fwlio statudol fel ei fod yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wirioneddol wrth-hiliol.

Er y byddwn ni’n cyflawni ein hymrwymiad i ddiweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio erbyn dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf, byddwn ni’n datblygu'r canllawiau hyn ymhellach drwy weithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru i ymgysylltu â phrofiadau byw plant a phobl ifanc, yn ogystal â'n hathrawon a'n hymarferwyr addysg.

Ond, gan gydnabod mai un o'r meysydd y gofynnir fwyaf amdano yw sut y gallwn ni ddarparu gwell cymorth i'r gweithlu addysgu i ddelio'n briodol â chwestiynau mewn perthynas â hil a hiliaeth, mae’r datganiad heddiw yn canolbwyntio'n benodol ar y datblygiadau arloesol i sefydlu dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth. Rhoddwyd sylw i’r maes hwn gan yr Athro Charlotte Williams OBE a'i gweithgor. Nodwyd ganddynt ei bod yn flaenoriaeth i baratoi ymarferwyr ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac mae hwnnw’n flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth.

Caiff y prosiect dysgu proffesiynol ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth—DARPL—ei arwain gan y rhwydwaith BAMEed Cymru a chynghrair o bartneriaid sy'n datblygu'n gyson, gan gynnwys the Black Curriculum a Show Racism the Red Card, ymhlith eraill, a nhw sy'n sbarduno'r prosiect heriol ac ysbrydoledig hwn i gamu ymlaen yn frwdfrydig.