Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Mehefin 2022.
Yn Rhondda Cynon Taf, mae 14,716 o aelwydydd wedi derbyn taliad o £200 gennym drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Mae amcanestyniadau a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022 yn awgrymu y gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd ac y gallai hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm is fod mewn tlodi tanwydd bellach.