Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr. Rhywbeth arall y sylwais arno ar nifer o ymweliadau ledled y rhanbarth oedd proffil oedran rhai o’r gwirfoddolwyr allweddol sydd eu hangen i gynnal y lleoliadau a’r clybiau hyn. Mae llawer yn hŷn, a phrin fod unrhyw dystiolaeth o gynllunio ar gyfer olyniaeth, sy’n peri pryder ynghylch hyfywedd rhai o’r mentrau allweddol hyn yn ein cymunedau yn y blynyddoedd i ddod. A all Llywodraeth Cymru wneud mwy i greu strwythurau o amgylch gwirfoddoli anffurfiol? Gallai hyn hybu parhad gwasanaethau a fyddai wedyn, efallai, yn caniatáu i rai o wahanol gefndiroedd a phroffiliau oedran gymryd rhan.