Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch. Wrth gwrs, rydym ninnau wedi galw am hynny, fel nifer fawr o ASau Ceidwadol, ynghyd ag ASau Llafur a phleidiau eraill hefyd. Gobeithiaf fod yr ateb hwnnw’n golygu y bydd yr holl arian hwnnw’n mynd i’r aelwydydd sydd wedi'u taro galetaf. Nid oedd yn hollol glir. Ond ar y cwestiwn penodol ynghylch tlodi tanwydd, gan fod fy nghwestiwn cyntaf yn fwy cyffredinol ynghylch tlodi tanwydd yng Nghymru, mae National Energy Action—NEA—yn amcangyfrif y bydd y cynnydd yn y cap ar brisiau o fis Ebrill ymlaen yn gwthio 100,000 o aelwydydd eraill yng Nghymru i mewn i dlodi tanwydd, gan ddod â'r cyfanswm i dros 280,000. Wrth eich holi yma ym mis Ionawr, cyfeiriais at gyhoeddi'r cynllun ymdopi â thywydd oer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl sydd mewn perygl o fod yn byw mewn cartref oer. Gofynnais sut ydych chi'n ymateb i bryder ac adborth gan aelodau'r gynghrair tlodi tanwydd yr hoffent weld mwy o fanylion ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector iechyd i gyflawni amcanion y cynllun a chytuno ar yr hyn y gall y sector iechyd ei wneud i’w gefnogi. Pan ddaethoch i gyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ar 14 Mawrth, a diolch i chi eto am ddod i’r cyfarfod hwnnw, gofynnais i chi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda’r sector iechyd i gyflawni amcanion y cynllun a sefydlu rhwydweithiau atgyfeirio rhwng gweithredwyr iechyd a phartneriaid cynghori. Mewn ymateb, fe ofynnoch chi i'ch swyddogion drafod ymhellach gyda mi a'r grŵp trawsbleidiol sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio gydag asiantaethau iechyd yn y modd hwn. Hyd yn hyn, nid wyf wedi clywed unrhyw beth. Felly, pryd y bydd hyn yn digwydd? A pha gamau sydd wedi'u cymryd hyd yn hyn?