Gwasanaethau Cynghori

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:05, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gefnogi gwasanaethau cynghori felly gallwn fod yn hyderus fod rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn gallu cael gafael ar gyngor ar ddyledion a budd-daliadau lles. Mae'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn achubiaeth i lawer o bobl sy'n cael anhawster gyda'r argyfwng costau byw.