Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:53, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â banc bwyd Rhisga gyda fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru, Delyth Jewell. Yno, clywsom am y galw cynyddol am eu gwasanaethau, nad yw'n fawr o syndod o ystyried yr argyfwng costau byw sy’n parhau ledled Cymru ac sy'n effeithio ar ein cymunedau. Ofnaf fod y galw ar fin mynd yn llawer uwch yn ein banciau bwyd ledled y wlad. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwirfoddoli yn y gymuned yn ogystal ag edrych ar atebion cymunedol i’r broblem hon, megis hybiau bwyd cymunedol? Gallai’r rhain ddarparu cynaliadwyedd i gymunedau lleol, darparu parseli bwyd, a bod yn ffynhonnell addysg amaethyddol.