Chwyddiant a Phobl Hŷn

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:01, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch ichi, Weinidog? Mae’r rhan fwyaf o bobl hŷn ar incwm sefydlog o bensiwn y wladwriaeth, pensiynau preifat a’r pensiwn atodol. Wrth i chwyddiant godi, ac ynni a bwyd yn arbennig yn bethau sy’n effeithio’n anghymesur ar bobl hŷn, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen cymorth ychwanegol a chynyddu'r pensiwn atodol, ac a wnaiff y Gweinidog bwyso ar Lywodraeth San Steffan i wneud taliad o’r fath? Hefyd, a oes cymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei roi? Mae gennym broblem yn yr ystyr fod pensiynwyr a phobl hŷn eraill yn llai tebygol o ddefnyddio banciau bwyd na phobl iau, ac mae hynny’n golygu y bydd llawer ohonynt yn mynd heb fwyd.