Hawliau Pobl Anabl

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:59, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rydych yn haeddu clod aruthrol am eich gwaith ar gyflwyno hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl yn nhymor blaenorol y Senedd; maent yn amhrisiadwy i filoedd lawer o bobl yma yng Nghymru. Beth yw eich asesiad o hawliau pobl anabl a llesiant pobl anabl ers 2010, o ganlyniad i fesurau Llywodraeth y DU? Yma yng Nghymru, pa fath o ddefnydd y credwch y gallwn ei wneud o bartneriaeth gymdeithasol, ac fel rydych wedi'i grybwyll, y contract economaidd, i ddarparu cymaint o gyfleoedd gwaith â phosibl i bobl sy’n wynebu rhwystrau sy’n anablu?