Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae'n dda clywed am y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i rai pobl. Mae'r cynnydd yn y cap ar brisiau ynni, wrth gwrs, yn mynd i fod yn heriol i bawb. Yn ôl yr elusen National Energy Action, fe allwn ni weld hyd at 45 y cant o bob aelwyd yng Nghymru yn dioddef tlodi tanwydd oherwydd codi'r cap. Mae hyn yn ffigur brawychus. Rydyn ni'n sôn am 614,000 o aelwydydd yng Nghymru.
Ond dwi am ganolbwyntio ar fesuryddion rhagdaliad, pre-payment meters, yn fy nghwestiwn i. Mae un o bob pump o gwsmeriaid trydan safonol yn talu drwy ragdaliad yng ngogledd Cymru, ac mae'r ffigur yna yn sicr am fod yn uwch yn Nwyfor Meirionnydd. Oherwydd bod y cap wedi codi ers mis Ebrill, mae cwsmeriaid sy'n talu drwy ragdaliad am weld eu costau cynyddu o £1,309 i £2,017 y flwyddyn. Yn amlach na pheidio, y rhain hefyd ydy'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Mae angen mwy o gymorth na'r hyn rydych chi wedi sôn amdano eisoes ar y bobl sy'n talu drwy ragdaliad na phobl eraill. Mae pob cymorth ychwanegol o fudd, ond pa gymorth arall fedrwch chi ei gynnig i bobl sy'n talu drwy ragdaliad, a pha drafodaethau ydych chi'n eu cael efo landlordiaid, boed yn gymdeithasau tai neu'n breifat, er mwyn sicrhau nad ydy pobl yn mynd i mewn i dlodi tanwydd oherwydd y mesuryddion rhagdaliad yma?