Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch i chi, Altaf Hussain, ac rwyf newydd sôn am ffyrdd yr ydym yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion pobl hŷn, yn enwedig gyda’r ymgyrch genedlaethol i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, ond hefyd drwy sicrhau, wrth imi gyfarfod â’r comisiynydd pobl hŷn, Age Cymru a grwpiau trawsbleidiol, ein bod yn ystyried profiad bywyd pobl hŷn ac yn rhannu hwnnw, nid yn unig gyda’r trydydd sector, ond gyda’r sefydliadau sydd â chyfrifoldeb mewn perthynas â darparu cyngor a chymorth a defnydd o'n cronfeydd.