Cartrefi i Wcráin

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:11, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae tua 2,000 o Wcreiniaid bellach wedi cyrraedd Cymru o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Noddwyd tua 500 o'r rhain gan Lywodraeth Cymru. Mae canllawiau ar gael i awdurdodau lleol a noddwyr yn ogystal â'n gwefan Noddfa ar gyfer Wcreiniaid. Mae ein canolfan gyswllt 24/7 a'n partneriaid yn y trydydd sector hefyd yn darparu cymorth.