Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae gorfodi deddfwriaeth pysgodfeydd yn hanfodol i gynaliadwyedd ein pysgodfeydd a diogelu'r amgylchedd morol. Er na allaf wneud sylwadau ar achosion penodol sy'n mynd rhagddynt rwy'n cadarnhau ein bod wedi erlyn pysgotwyr anghyfreithlon yn llwyddiannus dros y flwyddyn ddiwethaf.