Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 8 Mehefin 2022.
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod—a dywedaf hyn yn rhinwedd dwy swydd; yn gyntaf, fel Gweinidog yn y Llywodraeth, ond hefyd yn rhinwedd fy nghyfrifoldebau swyddog y gyfraith fel Cwnsler Cyffredinol—yw y byddaf yn rhoi ystyriaeth fanwl iawn, a bydd y Llywodraeth yn gwneud yr un peth, i'r argymhellion a gyflwynir, a gaiff eu pasio gan y Senedd, ac y byddaf yn gweithio wedyn i weld sut y gellir llunio deddfwriaeth gadarn ac ymarferol i weithredu'r argymhellion gan y Senedd.