Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 8 Mehefin 2022.
Gwnsler Cyffredinol, prynhawn da. Hoffwn ofyn cwestiwn ynglŷn â pholisi Llywodraeth y DU ar y posibilrwydd o anfon ceiswyr lloches i Rwanda. Roeddwn yn awyddus iawn i ganolbwyntio ar blant sy'n cael eu hasesu'n anghywir fel oedolion. Rydym wedi clywed pryderon brawychus ar ben hynny, sef bod yr heddlu, meddygon a gorsafoedd heddlu yn cynnal rhywbeth a elwir yn brofion aeddfedrwydd rhywiol. Mae hyn yn peri pryder, ac rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i gondemnio'r ddau beth, oherwydd gallent olygu bod plant yn cael eu hasesu fel oedolion ac y gallent fod yn rhan o'r garfan honno sy'n cael ei hanfon i Rwanda. Gwnsler Cyffredinol, tybed a wnewch chi godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU a mynegi eich pryderon ynglŷn â'r mater penodol hwn. Diolch yn fawr iawn.