Tribiwnlysoedd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:09, 8 Mehefin 2022

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Mae’n deg dweud nad yw cyfleusterau ein tribiwnlysoedd Cymreig ddim yn ddigon da. Dwi'n cofio siarad ag un barnwr a hi'n dweud mai ei gorchwyl cyntaf hi bob dydd oedd symud y bordydd a'r cadeiriau er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ystafell yn barod ar gyfer achos. Gyda'r brydles yn Oak House yng Nghasnewydd yn dirwyn i ben y flwyddyn nesaf—yr unig adeilad dynodedig i dribiwnlysoedd Cymru—beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau bod adeiladau a chyfleusterau addas ar gyfer ein tribiwnlysoedd?