Aelodau Seneddol Cymru yn Senedd y DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:14, 8 Mehefin 2022

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Mae gen i ryw syniad y bydd elfennau o'r drafodaeth yma yn cael eu gwyntyllu eto maes o law yn y Siambr yma, ond wrth ein bod ni'n gweld cwymp sylweddol yn y nifer o'n cynrychiolwyr ni yn San Steffan a, diolch byth, mwy o gyfrifoldebau yn dod drosodd i'r ddeddfwrfa hon, ydy'r Gweinidog yn cytuno felly bod angen mwy o Aelodau etholedig yma er mwyn craffu a sicrhau ein bod yn cael y ddeddfwriaeth orau posib i wasanaethu pobl Cymru, ac, mewn gwirionedd, nad refferendwm ar gynyddu faint o Aelodau sydd yn y Senedd yma sydd ei angen, ond yn hytrach, pan ddaw'r amser, refferendwm ar annibyniaeth i Gymru?