Confensiwn Sewel

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 3:17, 8 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Cytunaf â'r hyn yr ydych newydd ei ddweud. Roeddwn hefyd yn falch o glywed bod y Torïaid Cymreig wedi cefnu ar eu hymdrechion penderfynol i amddiffyn penderfyniad Llywodraeth y DU i atal cyllid sy'n gysylltiedig â HS2 i Gymru. Nawr, rydym yn gwybod onid ydym, Gwnsler Cyffredinol, fod y setliad presennol, fodd bynnag, yn dal i ganiatáu i Dorïaid y DU esgus bod rheilffordd rhwng Llundain a Manceinion o fudd i Gymru, felly nad oes angen cyllid. Safbwynt rhyfedd iawn i'w arddel. Gwnsler Cyffredinol, pa wahaniaeth y byddai codeiddio'r confensiwn yn ei wneud i'r safbwynt hwn sy'n amlwg yn fondigrybwyll?