Araith y Frenhines

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:20, 8 Mehefin 2022

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Mae Araith y Frenhines yn sôn am ddeddfwriaeth am faterion sydd yn dod o dan gymhwysedd ein Senedd, megis y Bil addasu genetaidd, er enghraifft. Bydd hyn yn sicr yn golygu y gwelwn ni ragor o LCMs yma, ond fel yr ydym yn ei wybod o brofiad, mae trefn yr LCMs yn gwbl annigonol. Does gennym ni ddim amser i graffu, heb sôn am ymgynghori, a phob yn damaid, wrth i'r LCMs fynd heibio, mae Cymru'n colli ychydig yn fwy o'n grymoedd datganoledig, wrth i San Steffan gymryd y grym yma yn ôl damaid bach ar y tro. Pa gamau, felly, ydych chi'n eu cymryd i sicrhau, yn gyntaf, fod gennym ni ddigon o amser i graffu? Ac yn olaf, ydych chi'n cytuno y byddai'r drefn yn llawer gwell ac yn fwy taclus os byddai'r materion yma wedi cael eu datganoli yn llwyr i Gymru?