Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 8 Mehefin 2022.
Wel, gallaf gadarnhau y byddai Senedd sy'n defnyddio olew palmwydd o ffynonellau cynaliadwy yn fwy na pharod i gyfarfod â’r ysgol sy'n defnyddio olew palmwydd o ffynonellau cynaliadwy i drafod y mater hwn. Rwy’n siŵr y gallwn, fel Comisiwn, sicrhau ein bod yn gallu cyfarfod â chynrychiolwyr o’r ysgol, a diolch i chi am yr holl waith y maent yn ei wneud fel pobl ifanc i arwain y ffordd ar y materion hyn.