Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 8 Mehefin 2022.
Mae cynllun pensiwn y staff cymorth yn cael ei redeg gan Aviva. Nid yw'r Comisiwn yn ymwneud â phenderfyniadau sut i fuddsoddi yr asedau. Mae penderfyniadau ar fuddsoddiadau pensiynau staff cymorth yn nwylo ymgynghorwyr buddsoddi arbenigol Aviva, sy'n ymgysylltu â chwmnïau ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Gall staff cymorth hefyd ddewis y cronfeydd i fuddsoddi ynddynt.
Mae cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, sydd ar gael i staff y Comisiwn, yn gynllun heb ei ariannu, ac felly nid oes ganddo asedau i'w buddsoddi. Telir buddion o refeniw treth yn hytrach nag o asedau a neilltuwyd i'w talu.