Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch, Jenny. Felly, yn amlwg, mae'n destun gofid ein bod wedi gorfod cymryd y cam hwn, ond rydym mewn cyfnod digynsail. Yn benodol, mae landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru yn ein helpu gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin, ac mae gennym nifer fawr o achosion o ddigartrefedd ledled Cymru y bydd yn rhaid inni ymdrin â hwy ar yr un pryd. Nid yw landlordiaid wedi cael chwe blynedd i roi’r Ddeddf ar waith. Pasiwyd y Ddeddf chwe blynedd yn ôl, ond o ran y rheoliadau a oedd yn gysylltiedig â'r Ddeddf, nid yw pob un o’r rheini'n weithredol ar hyn o bryd; bydd pob un ohonynt yn weithredol erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Y rheoliadau hynny sy’n nodi ffurf a chynnwys y contractau meddiannaeth, er enghraifft, ac yn gwbl briodol, rhoesom chwe mis i landlordiaid rhwng pasio’r rheini a rhoi’r Ddeddf ar waith.
Ni allai unrhyw un fod yn fwy siomedig na minnau na fu modd inni sicrhau bod amddiffyniadau'r rheoliadau COVID yn parhau'n ddi-dor i mewn i'r Ddeddf hon, a gwnaethom ymdrechu'n galed iawn i wneud hynny, ac ni fu'n bosibl. Ond hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod nad oes unrhyw fudd i landlordiaid droi tenant allan yn awr a chychwyn contract meddiannaeth newydd, oherwydd byddent yn cael eu dal gan y Ddeddf pan ddaw i rym wrth gwrs. Felly, mae'n anodd iawn deall pam y byddent yn gwneud hynny, oni bai eu bod am ddod allan o'r sector rhentu preifat yn gyfan gwbl, am eu bod am feddiannu'r tŷ eu hunain neu am eu bod am ei werthu, ac os felly, byddent yn gwneud hynny beth bynnag, yn annibynnol ar weithrediad y Ddeddf.
Rydym yn gweithio’n galed iawn gyda Shelter Cymru i sicrhau bod ein holl rentwyr yn cael y cyngor cywir. Rydym yn rhoi grant o £1,491,847 i Shelter Cymru bob blwyddyn i dalu am wasanaethau cyngor a gwybodaeth yn y maes tai, gwasanaeth atal digartrefedd cynnar, gwasanaeth ymwybyddiaeth LHDT+ a Daliwch Sylw. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i Cyngor ar Bopeth ar gyfer cyflwyno llinell gymorth dyledion ar gyfer y sector rhentu preifat, lle y gall tenantiaid siarad â chynghorwyr annibynnol, hyfforddedig a all eu helpu i gynyddu eu hincwm, eu cynorthwyo i hawlio budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, a chynnal asesiad o fforddiadwyedd i helpu gydag ôl-ddyledion rhent neu ddyledion eraill y cartref.
Rwyf hefyd, wrth gwrs, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gwyno am eu bod, yn llechwraidd yn ôl pob golwg, wedi rhewi’r lwfans tai lleol, sy’n lleihau faint o arian y mae pobl ar gredyd cynhwysol yn y sector rhentu preifat yn ei gael tuag at eu costau tai. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda nifer o gynghorau a landlordiaid cymdeithasol i sicrhau ein bod yn derbyn unrhyw eiddo gan landlord sector preifat sy'n barod i'w drosglwyddo i ni yn hirdymor yn unol â'n strategaeth lesio.
Felly, er na allai unrhyw un fod yn fwy rhwystredig na mi ynglŷn â’r angen i wneud hyn, rwy’n derbyn yn llwyr fod y landlordiaid cymdeithasol yn enwedig yn ei chael hi’n anodd rhoi hyn ar waith wrth iddynt ein cynorthwyo, yn fwyaf arbennig, gydag argyfwng ffoaduriaid Wcráin ar hyn o bryd. O dan yr amgylchiadau hynny, fe wnaethom gytuno, yn gyndyn, i ohirio gweithredu'r Ddeddf.