Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 8 Mehefin 2022.
Mae adroddiad ein pwyllgor yn nodi pecyn integredig o gynigion ar gyfer Senedd gryfach i gynrychioli pobl Cymru yn well, a chynllun i'n helpu i wireddu hynny. Credwn y gall ein cynigion ennyn cefnogaeth o leiaf y 40 Aelod sy'n angenrheidiol ar gyfer uwchfwyafrif yma yn y Senedd hon. Fel y dywedwn yn yr adroddiad, credwn yn gryf fod y diwygiadau hyn yn hanfodol a'u bod yn gyraeddadwy cyn 2026, ond i wneud hynny, ni allwn betruso nac oedi.
Heddiw, gallwn ni yn y Siambr hon ddewis anfon neges glir i'r Llywodraeth fod yna gonsensws yn awr y dylem symud ymlaen. Wrth gyflwyno'r adroddiad hwn, rwyf fi ac aelodau'r pwyllgor yn ymwybodol ein bod yn wir yn sefyll ar ysgwyddau cewri, ac nid dim ond un neu ddau gawr ychwaith: y diweddar Arglwydd Richard, Syr Paul Silk, yr Athro Laura McAllister ac aelodau'r panel arbenigol annibynnol, cyn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, Dawn Bowden, ein Haelod Senedd ein hunain, i enwi ond ychydig. Ac fel y clywsom mewn trafodaethau ddoe yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, mae penseiri a chynheiliaid Senedd gryfach a llais cryfach i bobl Cymru yn mynd yn ôl ymhellach fyth i'n hanes.
Ac eto, mae hanes datganoli'n llawn o adroddiadau a geisiai symud stori datganoli yn ei blaen, symud y Senedd hon yn ei blaen. Yn fwyaf diweddar, pwysodd adroddiad ein pwyllgor ar y sylfeini a sefydlwyd gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol, a'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, ond ni wnaethom geisio ailadrodd y dystiolaeth a gasglwyd yn flaenorol drwy eu hymgynghoriad cyhoeddus a'u trafodaethau arbenigol. Ni chafodd yr un o'r adroddiadau a'r ymchwiliadau mwy diweddar hynny yr effaith uniongyrchol y byddai eu hawduron wedi dymuno iddynt ei chael, ond maent wedi bod o fudd i ni.
Heddiw, wrth drafod adroddiad ein pwyllgor, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru', cawn funud mewn amser yn ogystal, munud mewn cenhedlaeth o bosibl, lle y gallwn ddewis symud ymlaen a chyfarwyddo'r Llywodraeth i gyflwyno cynigion deddfwriaethol. Felly, edrychwn ymlaen at glywed Aelodau'n mynegi eu barn ar y cynigion heddiw, a bydd yr Aelodau yn gwbl briodol eisiau mynegi eu barn eu hunain ar eu hoff system, neu eu system ddelfrydol hyd yn oed, a'r ffordd orau ymlaen yn eu barn hwy.
Wrth wneud hynny, byddwn yn awgrymu bod dau bwynt yn haeddu eich ystyriaeth. Yn gyntaf, ni cheir un pecyn perffaith digymysg o ddiwygio etholiadol a fydd yn bodloni pawb. Ac eto, ceir rhai systemau, neu gyfuniadau o systemau, a allai geisio cyflawni nifer o amcanion mewn ffordd well, megis gwahanol fynegiadau o gymesuredd, symlrwydd, amrywiaeth, ac yn y blaen. Yn ail, ac yn anochel, yr amcan a nodwyd gan ein pwyllgor oedd dod o hyd i argymhellion y mae'n rhaid iddynt hefyd ennill cefnogaeth ar draws y Senedd gyfan—yr uwchfwyafrif hwnnw y clywir amdano mewn mythau a chwedlau—nid ceisio sicrhau rhyw weledigaeth o berffeithrwydd, a thrwy hynny aberthu ymarferoldeb a gallu i'w gyflawni erbyn 2026.
Gadewch imi droi at flociau adeiladu allweddol ein pecyn o ddiwygiadau, sef maint, system etholiadol, ffiniau, mesurau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gydnabod bod y materion hyn wedi'u plethu'n anorfod; maent yn hybu ac yn dylanwadu ar ei gilydd. Yn gyntaf, ar faint, rydym wedi dod i'r casgliad, fel pob corff aruchel a'n rhagflaenodd, nad yw'r Senedd wedi'i phweru'n ddigonol i wneud y gwaith y gofynnir iddi ei wneud. Yn fyr, nid oes digon ohonom ni ar y meinciau cefn i wneud ein gwaith yn effeithiol ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae ein pŵer craffu wedi'i gyfyngu. Nid yw ein gallu i arbenigo, i ymchwilio'n ddyfnach, i herio'n galetach, yn ddigon cryf yn ôl pob cymharydd cenedlaethol a rhyngwladol; nid oes digon ohonom.
Mae hyn yn ymwneud â chydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau hollbwysig sy'n effeithio ar fywydau miliynau o bobl yng Nghymru, yn rheoli cyllideb o bron i £20 biliwn, a bod angen craffu ar y penderfyniadau hynny a'u herio yn y modd mwyaf effeithiol. Rydym yn argymell, felly, y dylid cynyddu maint y Senedd i 96, nifer y dylid ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol. Byddai'n sicrhau bod Cymru'n dilyn yn fras y lefelau sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, er y byddent yn dal i fod, er gwybodaeth, yn is na rhai o'r cymaryddion rhyngwladol. Nid yw'n rhif hud, ond mae wedi'i glymu'n annatod wrth y pecyn ehangach o ddiwygiadau, ac yn hollbwysig, bydd hefyd yn ein galluogi i wneud cynnig cydlynol ar gyfer diwygio y gellir ei gyflawni erbyn 2026.
Gadewch imi wneud y pwynt, os methwn fanteisio ar y cyfle hwn i arfogi ein Senedd yng Nghymru, y Senedd hon, â'r capasiti i gyflawni'r cyfrifoldebau ychwanegol sydd gennym yn awr—y pwerau deddfu sylfaenol, y pwerau amrywio trethi a benthyca; y beichiau deddfwriaethol, polisi a rhyngseneddol ychwanegol a pharhaus a roddwyd arnom mewn senario ôl-Brexit; yr ymwybyddiaeth gynyddol o'n cyfrifoldebau ymhlith y cyhoedd, yn enwedig oherwydd y pandemig; a'r potensial hwnnw, nad yw'n afrealistig, o gyfrifoldebau ychwanegol yn y dyfodol—nid sefyll yn ein hunfan yn unig y byddwn yn ei wneud, byddwn yn mynd wysg ein cefnau fel Senedd, a byddwn yn peri i'r Senedd hon fethu.
Mae ein pecyn o ddiwygiadau hefyd yn cynnwys newidiadau i'r system etholiadol ei hun. Mae'n bosibl fod y system Aelodau cymysg hybrid sydd gennym ar hyn o bryd wedi cyflawni ei diben i ddechrau, ond nid yw'n addas i'r diben yn awr nac ar gyfer y dyfodol; mae'n gymhleth i'r cyhoedd, mae'n arwain at ddau fath o Aelod ac yn y blaen. Bydd ein cynigion ar gyfer system gynrychiolaeth gyfrannol gan ddefnyddio rhestrau caeedig, yn gymesur â'r system bresennol fan lleiaf, neu'n well na hi; mae'n fath o bleidleisio sy'n gyfarwydd i bleidleiswyr ac mae'n hawdd ei ddeall, gan ei bod yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn rhan o system etholiadol bresennol y Senedd.
Mae'r newidiadau i'r system etholiadol, a'r cynnydd yn aelodaeth y Senedd, yn ei dro, yn rhoi cyfle inni ystyried mesurau i sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn well, gan reoli'r risgiau cymhwysedd deddfwriaethol ar yr un pryd. Felly, rydym yn cynnig y dylid cyflwyno cwotâu rhywedd deddfwriaethol a mesurau eraill i hyrwyddo a sefydlu gwell cydraddoldeb ac amrywiaeth yn aelodaeth ein Senedd yn hirdymor. Gallwn fod yn falch o'n hanes mewn perthynas â rhywedd, ond ni allwn fod yn fodlon. Rhaid inni gymryd y cam nesaf yn awr i sicrhau mai ni fydd y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ddeddfwriaethol yn ein Senedd. Y tu hwnt i'r cynigion deddfwriaethol uniongyrchol, mae ein hadroddiad hefyd yn argymell camau gweithredu ar amrywiaeth ehangach hefyd.
Ar y ffiniau a'r mecanwaith adolygu ffiniau y bydd ei angen yn awr, roedd ardaloedd etholiadol cyfartal yn un o alwadau mawr gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd ym 1839. Roeddent yn iawn, ac eto mae ein ffiniau presennol yn gwarantu pleidleisiau anghyfartal. Mae ffiniau etholiadol ein Senedd hefyd yn anhyblyg bellach, heb unrhyw fecanwaith i'w hadolygu. Nid dyma'r ffordd i gynnal democratiaeth. Felly, rhaid inni gymryd y cam hwn i lunio comisiwn ffiniau annibynnol a all bennu ffiniau Cymru yn unol ag anghenion Cymru ei hun, gan ddarparu'r pwerau i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol presennol Cymru, ond bod hwnnw'n cael ei ailenwi a'i ailgyfansoddi i adlewyrchu ei swyddogaethau newydd. Mae'r cynigion hyn yn ein galluogi i sefydlu etholaethau mwy cyfartal ac aml-Aelod cyn 2026, yn seiliedig ar baru etholaethau newydd San Steffan.