Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 8 Mehefin 2022.
Nid yw'r hyn sy'n cael ei gynnig heddiw yn berffaith, ond dyw natur datganoli yng Nghymru ers 1997 ddim wedi bod yn berffaith. Yn 1997, roedd rhai yn y Democratiaid Rhyddfrydol, ac ym mhlaid fi fy hun, yn dadlau doedd yr hyn a oedd yn cael ei gynnig gan Lafur ddim yn ddigon da a ddylen ni ddim cefnogi hynny, tra'r oedd eraill yn dweud, 'Wel, fe wnawn ni afael yn hyn, y cynnig amherffaith hwn, trwy obeithio ei fireinio ac adeiladu arno.'