Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch am eich ymyriad, a fy ymateb i hynny yw bod pobl yng Nghymru yn gyfarwydd iawn â'u hawdurdod lleol, a dyna oedd y pwyllgor wedi bod yn ei ystyried hyd yn hyn. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar hynny. Nid oedd unrhyw sôn o gwbl am y cynnig i gyflwyno ffiniau etholaethau San Steffan.