Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 8 Mehefin 2022.
Mae'r mater arall yr oeddwn yn anghytuno â'r rhan fwyaf o'r pwyllgor yn ei gylch yn ymwneud â’r system etholiadol. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dadlau ers tro y dylid cynnal etholiadau gan ddefnyddio system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, gan roi grym a dewis ystyrlon i bleidleiswyr, dod â rheolaeth pleidiau drwy etholiadau rhestrau caeedig i ben, a sicrhau bod Aelodau’n fwy atebol i’w hetholwyr nag i’w pleidiau. Ystyriodd y pwyllgor sawl system etholiadol, gan gynnwys D'Hondt a Sainte-Laguë. Canfu casgliadau'r panel arbenigol, a ystyriwyd yn fanwl gan y pwyllgor, ac rwy’n dyfynnu,
'yn gyffredinol, [fod] fformiwla etholiadol D'Hondt yn arwain at ganlyniadau sy'n llai cyfrannol na fformiwla Sainte-Laguë, ac weithiau'n llai cyfrannol na'r system bresennol.'
Cau'r dyfyniad. Mae'r cynnig ger ein bron yn rhoi'r grym i bleidiau yn hytrach na phleidleiswyr, a'r hyn sy'n peri pryder i mi yw'r llwybr gwahanol iawn yr ydym yn ei ddilyn o gymharu â'r hyn a gynigiwyd gan y panel arbenigol a phwyllgor y Senedd ar ddiwygio. Argymhellodd y ddau, ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael, sut i gyflawni egwyddorion diwygio clir iawn—model gwahanol iawn i’r un a gynigir gan Lafur a Phlaid Cymru. Felly, mae'n rhaid imi gwestiynu'r rhesymeg dros fynd i gyfeiriad gwahanol iawn i'r dystiolaeth, a Gwnsler Cyffredinol, hoffwn ofyn i chi roi rhesymau clir pam y gwrthodwyd argymhellion blaenorol y panel arbenigol.
Byddaf yn gorffen yn y man. Byddwn yn annog Llafur a Phlaid Cymru i edrych eto ar y dull etholiadol a gwneud darpariaethau, o leiaf, ar gyfer rhestrau hyblyg i roi mwy o ddewis i bleidleiswyr. Nid technegolaeth y cynigion yn unig sy'n peri pryder i mi: dyma ein cyfle i greu gwleidyddiaeth newydd sy'n gydgynghorol, yn gyfrannol ac yn amrywiol, ac sydd wedi’i llywio gan atebolrwydd a thryloywder.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n cefnogi'r egwyddor sy'n sail i ddiwygio. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a minnau wedi ymrwymo i sicrhau Senedd a all gefnogi democratiaeth fywiog, Cymru hunanlywodraethol hyderus a Chymru lewyrchus heddiw ac yn y dyfodol. Mae gennyf amheuon ynghylch y manylion, ac rwy'n gobeithio y gall y Senedd gydweithio—gadewch inni ddychwelyd at y cydweithio trawsbleidiol gwirioneddol hwnnw sydd mor bwysig i mi—ac adeiladu ar y cynigion cynnar hyn a’u haddasu ar y cyd i sicrhau bod y diwygiadau hyn o ddifrif yn sicrhau democratiaeth real i Gymru, fel y byddai fy mam wedi'i hoffi. Diolch yn fawr iawn.