Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 8 Mehefin 2022.
—nad yw'r anghydraddoldeb strwythurol hwnnw, a drafodwyd gennym yn yr union Siambr hon ddoe, yn bodoli, er bod adroddiad ar ôl adroddiad yn cyfeirio at y gwrthwyneb, ac mae cyfansoddiad y Senedd hon yn profi hynny y tu hwnt i amheuaeth. Mae yna rai sy'n teimlo nad oes angen mesurau statudol arnom i sicrhau gwell cynrychiolaeth. Wedi'r cyfan, fe wnaethom ymffrostio'n falch am ein cyflawniadau cynnar o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau a chanmol ein hunain am arwain y ffordd. Ond pan edrychwn o amgylch y Siambr hon, gallwn weld bod mesurau gwirfoddol gan y pleidiau, neu ymddiried mewn lwc, wedi profi'n aneffeithiol hyd yma ar gyfer cynnal cydbwysedd neu ysbrydoli amrywiaeth pellach. Yn rhyngwladol, mae effaith cwotâu rhywedd yn bellgyrhaeddol ac yn aml yn cael effeithiau cadarnhaol, anuniongyrchol, gyda grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu grymuso i gamu i'r byd gwleidyddol. Dyna pam y mae angen, fel y mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn ei roi, ymgorffori cydraddoldeb rhywiol yn ein system etholiadol drwy ddeddfwriaeth. Ac mae'r ffordd y deddfir ar gyfer unrhyw gwota yn bwysig. Dylai'r Bil ddatgan bod yn rhaid i o leiaf 50 y cant o ymgeiswyr fod yn fenywod. Diben y cwota yw rhoi llawr isaf i gynrychiolaeth menywod, llawr na ddylai ddisgyn oddi tano, yn hytrach na rhoi terfyn uchaf arno.
Ac yna, wrth gwrs, fel y clywsom y prynhawn yma, ceir y ddadl 'person gorau ar gyfer y swydd' yn erbyn pob math o wahaniaethu cadarnhaol. Ddirprwy Lywydd, gall cwotâu ein helpu i symud tuag at feritocratiaeth go iawn, yn hytrach na bod yn rhwystr iddi. Ceir rhagfarn a rhwystrau cymdeithasol sy'n atal rhagor o fenywod rhag dod yn wleidyddion, rhag bod yn yr ystafell lle y gwneir penderfyniadau am eu bywydau sydd ond yn arwain at fwy o anghydraddoldeb strwythurol. Mae hyn hefyd yn wir am bobl anabl, pobl dduon, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a phobl o'r gymuned LHDTC+.
Mae'n wir nad yw cwotâu rhywedd yn ddigon ar eu pen eu hunain i sicrhau'r gynrychiolaeth gyfartal ac amrywiol y gellid ei sicrhau ar gyfer ein Senedd, ac mae Plaid Cymru yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor y dylid gwneud rhagor o waith ar gwotâu amrywiaeth, ar wahân i rywedd. Dylid gwneud hyn yn gyflym, a byddwn wedi hoffi gweld amserlenni ynghlwm wrth yr argymhelliad hwnnw. Fodd bynnag, dim ond y dechrau yw diwygio'r dull o ethol. Er mwyn sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu'n llawn y gymdeithas y mae'n ei chynrychioli, rhaid i'r Senedd fod yn weithle sy'n gweithio i fenywod. Dylid symud ymlaen ar fyrder ar argymhellion 13 a 14 o'r adroddiad, sy'n cyfeirio at y gwaith pellach sydd ei angen er mwyn galluogi rhannu swyddi, oherwydd fel y dywed y pwyllgor, gallai rhannu swyddi
'alluogi mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr i sefyll etholiad, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau teuluol a chyfrifoldebau gofalu; y rhai ag anableddau; a’r rhai sydd wedi’u lleoli’n ddaearyddol ymhellach i ffwrdd o’r Senedd.'