Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 8 Mehefin 2022.
Unwaith eto, mae arnom angen amserlenni ar gyfer y gwaith hollbwysig hwn. Rhaid peidio â'i ysgubo o'r neilltu. Mae gweithio hybrid hefyd yn elfen allweddol o arfer y gweithle, ac yn anffodus, nid yw'n cael ei grybwyll yn adroddiad y pwyllgor. Felly, hoffwn glywed a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried mynd i'r afael â hyn fel rhan o ddiwygio'r Senedd.