Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 8 Mehefin 2022.
Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb, fel y gwnaf bob amser, ar yr Aelodau Ceidwadol, ond a gaf fi ofyn, os mai eich barn chi yw nad yw'n ddilys cyflwyno newid i'r system etholiadol heb refferendwm, pam na chyflwynodd eich Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan y cymal hwnnw yn Neddf Cymru 2017? Yr hyn a wnaethoch oedd dweud ei fod yn amodol ar ddwy ran o dair o'r Aelodau o'r Senedd hon yn pleidleisio o blaid. Pam na wnaethoch chi hynny bryd hynny, os yw'n egwyddor mor bwysig yn awr?