Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 8 Mehefin 2022.
Pan bleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli ym mis Medi 1997, pleidleisiodd y Blaid Geidwadol yn Senedd San Steffan yn erbyn y ddeddfwriaeth ym mis Rhagfyr 1997, ac mae angen ichi gofio hynny. Ac fe wnaeth pobl Cymru ethol Llywodraeth a Senedd hefyd a oedd wedi ymrwymo i ddiwygio. Gallwch naill ai ddod ar hyd y llwybr gyda ni a sicrhau ein bod yn cytuno ar y diwygiad hwnnw ar draws y Siambr gyfan—