Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 8 Mehefin 2022.
Cyn imi symud ymlaen at brofiad cleifion, rwyf am gofnodi fy niolch i'r staff gwych yn Betsi, a nodi hefyd fod fy mrawd a fy chwaer ill dau yn nyrsys yn y GIG. Pan fyddaf yn siarad â staff—boed yn feddygon, nyrsys, bydwragedd, staff cymorth, staff gweinyddol—mae’r stori bob amser yr un fath: maent yn gwneud eu gorau glas, ddydd ar ôl dydd, ond nid ydynt yn cael eu cefnogi gan y Llywodraeth hon, Llywodraeth nad yw wedi cymryd y camau llym y mae angen inni eu gweld yng ngogledd Cymru. Er enghraifft, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi dweud:
'Nid oes digon o bobl ar y rota. Rhaid dewis rhwng mynd i'r clinig neu adael i feddygon dibrofiad iawn wneud gwaith llanw ar ward ar eu pen eu hunain.'
Mae’r staff rheng flaen yn ein hysbytai yn parhau i wneud eu gorau o dan amgylchiadau anodd bob dydd. Weinidog, rwy’n eich annog i roi’r cymorth sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith yn dda.
Ac yn fy nghyfraniad heddiw, Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater sydd, yn fy marn i, yn llywio'r ddadl heddiw, a'r cyntaf yw profiad y claf. Y ffaith amdani yw bod diffyg cymorth gan y Llywodraeth yn golygu na all y bwrdd iechyd ddarparu gwasanaethau’n briodol. Mae unrhyw un sydd wedi ymweld â lleoliadau gofal iechyd yn fy rhanbarth yng ngogledd Cymru ac wedi eistedd gyda chleifion yn gwybod pa mor ddrwg y gall pethau fod.
Mae amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yng ngogledd Cymru ymhlith y gwaethaf ar draws y wlad. Mae un o bob pedwar claf yn aros dros flwyddyn am driniaeth, gyda 18,000 o gleifion yn aros mwy na dwy flynedd. Fe soniaf am achos un etholwr, Mrs Jones, yn fy rhanbarth; mae Mrs Jones wedi bod yn aros am glun newydd ers mwy na blwyddyn. Yn yr amser hwnnw, nid yw’r bwrdd iechyd wedi cyfathrebu fawr ddim gyda hi a dros y flwyddyn, mae Mrs Jones wedi dioddef poen sylweddol. Mae hi wedi gorfod rhoi'r gorau i yrru, mae hi'n gaeth i’w chartref mewn poen. Pe bai Gweinidogion iechyd blaenorol wedi mynd i'r afael â'r mater, ni fyddai Mrs Jones yn y sefyllfa y mae ynddi yn awr.
Yn ail, hoffwn ganolbwyntio ar amseroedd aros ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Nid yw perfformiad ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys gogledd Cymru yn ddigon da. Ym mis Ebrill 2022, cofnododd Betsi yr amseroedd aros gwaethaf ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, gydag ychydig dros hanner y cleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr. Ac mae'r stori hyd yn oed yn waeth mewn ysbytai penodol, yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, lle mae’r ffigurau’n is na 35 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr, a 40 y cant yn ysbyty Maelor, gydag un o bob pump o gleifion—gwrandewch ar hyn; un o bob pum claf—yn gorfod aros am fwy na 12 awr. Deuddeg awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys; mae hynny yn argyfwng. Deuddeg awr.
Ac mae’r methiant i ymdrin â’r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys yn gosod pwysau ychwanegol sylweddol ar ein gwasanaethau ambiwlans. Ym mis Ebrill 2017, byddai 79 y cant o ambiwlansys yn cyrraedd o fewn wyth munud ar gyfer galwadau coch pwysig. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yn 2022, ar ôl blynyddoedd o fesurau arbennig ac ymyrraeth gan y Llywodraeth hon, mae'r ffigur hwnnw bellach yn 46 y cant, sefyllfa lawer iawn gwaeth nag yn 2017. Ac mae'r rhain yn bobl go iawn, y bobl sy’n aros am yr ambiwlansys hynny, pobl sydd angen sylw meddygol mewn argyfwng.
Rhoddaf enghraifft arall, achos etholwr arall. Cysylltodd y Parchedig John Morgan o Fae Cinmel â’n swyddfa yng ngogledd Cymru yr wythnos diwethaf i rannu ei brofiad. Yn y bore bach am 3 a.m., cafodd y Parchedig Morgan boenau yn ei frest a ffoniodd i alw am ambiwlans. Chwe awr yn ddiweddarach, cyrhaeddodd un, ac aeth ag ef i aros y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys ac arhosodd y tu allan i'r adran honno am chwe awr arall. Yna cafodd ei roi ar droli yn yr adran damweiniau ac achosion brys, lle y cafodd ei anwybyddu. Er ei fod yn ddiabetig, ni chynigiwyd bwyd iddo. Ar ôl noson ddi-gwsg mewn adran damweiniau ac achosion brys oer heb flanced na gobennydd, aeth i'r ystafell ymolchi, ond canfu nad oedd dŵr yn dod o'r tap ar gyfer ymolchi. Yna gadawyd y Parchedig Morgan i aros cyn cael ei feddyginiaeth. Ar ôl cael ei adael heb ddim byd ond diod ers amser cinio, penderfynodd ryddhau ei hun am 5 p.m. Yn ei eiriau ei hun, dywedodd y Parchedig Morgan ei fod yn teimlo bod yr amodau yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn annynol; byddai'n well ganddo farw gartref ar ei ben ei hun na mynd yn ôl i'r ysbyty. Aelodau, mae’r Parchedig Morgan yn 70 oed ac yn gyn-filwr a wasanaethodd yn yr Awyrlu am 25 mlynedd. Mae profiadau fel un y Parchedig Morgan yn gwbl annerbyniol ond yn anffodus, yn llawer rhy gyffredin.
Gallwn fynd ymlaen i sôn am lond llaw o fethiannau yn Betsi: mae gwasanaethau fasgwlaidd yn draed moch, mae mynediad at wasanaethau deintyddol yn loteri, mae meddygfeydd meddygon teulu yn dod â chontractau â’r bwrdd iechyd i ben. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n sôn am y pethau hyn heddiw yn y ddadl. Lywydd, y peth i mi sy’n crynhoi methiant Llywodraeth Cymru i wella pethau yn Betsi yw perfformiad y gwasanaethau iechyd meddwl, ac rwyf am orffen gyda hynny heddiw.
Mor ddiweddar â mis Ebrill, datgelodd Y Byd ar Bedwar ar S4C fod cleifion yn cael eu hamddifadu o driniaeth cleifion mewnol—eu hamddifadu o’r triniaethau cleifion mewnol yr oeddent eu hangen. Mae staff yn ofni dod i’r gwaith, ac yn rhy ofnus i godi llais. Mae hyn yn awgrymu na fu unrhyw gynnydd o gwbl ers y mesurau arbennig yn 2015. Mae bron yn anghredadwy fod y bwrdd iechyd a oedd yn gyfrifol am sgandal Tawel Fan yn dal i fod heb ddysgu gwersi. Mae'n amlwg i mi fod tynnu Betsi allan o'r mesurau arbennig hynny yn benderfyniad anghywir, a fisoedd yn unig cyn etholiad y Senedd, roedd yn sicr yn benderfyniad gwleidyddol. Mae’n bryd gwrthdroi’r penderfyniad gwleidyddol a wnaed gan eich rhagflaenydd, Weinidog, a chymryd y camau radical sydd angen inni eu gweld.
Wrth gloi, mae pethau wedi bod yn wael yn Betsi ers llawer gormod o amser, a Llywodraeth Lafur Cymru sydd ar fai. Treuliodd y cyn gapteniaid Drakeford a Gething ormod o amser yn aildrefnu cadeiriau haul ar y dec a dim digon o amser yn trefnu’r cychod achub, gyda’r Gweinidog presennol yn cael ei gwneud yn gapten ar y Titanic ar ôl iddi dorri yn ei hanner. Gyda Llafur Cymru yn methu darparu gwasanaethau iechyd digonol i bobl Cymru, rwy’n awgrymu ei bod yn bryd rhoi rhybudd iechyd ar y Llywodraeth hon. Gall y sgil-effeithiau gynnwys un o bob pump o bobl ar restrau aros, 10,000 o bobl yn aros am fwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, dros 70,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, 42 y cant o gleifion canser nad ydynt yn dechrau triniaeth o fewn dau fis, a gobaith 50:50 o gael ambiwlans o fewn yr amser sydd ei angen arnoch. Mae'n bryd newid, ac mae'n bryd cael atebion newydd. Weinidog, rwy’n eich annog i wneud yr hyn na allai eich rhagflaenwyr ei wneud, a mynd i’r afael â’r problemau yn Betsi ar unwaith ac am byth. Diolch yn fawr iawn.