Part of the debate – Senedd Cymru am 6:54 pm ar 8 Mehefin 2022.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cefnogi'r argymhellion a wnaeth Ken Skates yn gynharach? Roeddwn i'n meddwl eu bod yn dda iawn. Rwy'n croesawu'r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud: hyfforddi nyrsys newydd, darparu bwrsariaethau, adeiladu ysgol feddygol newydd ym Mangor, ceisio goresgyn y prinder staff y mae Brexit a'r pandemig wedi'u creu, gan gynnwys cymhlethdodau gyda cheisiadau am fisa. Ac mae croeso mawr i'r ymyriadau. Mae angen inni gadw ein staff da presennol—