7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 8 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 7:00, 8 Mehefin 2022

Fel yr Aelod dros Arfon, sy'n cynnwys Ysbyty Gwynedd wrth gwrs, dwi wedi bod yn bur bryderus am y bwrdd iechyd ers tro, ac mae arnaf ofn na fydd y cyhoeddiad ddoe yn ein symud ymlaen at ddyddiau gwell. Dros y blynyddoedd, mae etholwyr wedi tynnu sylw at eu pryderon, rhai ohonyn nhw yn ymwneud efo colli gwasanaethau o Ysbyty Gwynedd. Bu'n rhaid inni ymladd bygythiad i'r gwasanaethau mamolaeth. Fe wnaed yr achos dros gadw ac adeiladu ar y gwasanaeth fasgiwlar, ond fe'i symudwyd i'r dwyrain, gan chwalu uned o ansawdd rhagorol, ac rydyn ni'n gyfarwydd iawn efo canlyniadau damniol ac ysgytwol y penderfyniad hwnnw ar gyfer holl gleifion y gogledd. Codwyd pryderon difrifol iawn am uned iechyd meddwl Hergest, ond ceisiwyd claddu adroddiad Holden.

Mae'r pryderon yma i gyd wedi dod i'm sylw i yn bennaf drwy staff bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, y gweithlu ardderchog sydd gennym ni, a'r bobl sy'n brwydro yn erbyn yr heriau sylweddol yn ddyddiol. Dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu gwaith, ond dwi'n ddiolchgar hefyd i'r rhai hynny ohonyn nhw sydd wedi dod â'u pryderon nhw ymlaen. Drwyddyn nhw rydym ni'n gallu dod i ddeall gwir natur y problemau.

Mae'r staff wedi dod ataf fi eto yn ddiweddar am resymau eraill. Dwi wedi derbyn cwynion am ddiwylliant o fwlio yn Ysbyty Gwynedd—cwynion difrifol iawn—a dwi yn falch bod Rhun ap Iorwerth wedi bod yn mynd ar ôl hyn hefyd ac wedi sicrhau adolygiad o'r sefyllfa. 

Bob tro mae aelod o staff yn dod ataf fi, mae hi neu fo yn pwysleisio nad ydw i fod i grybwyll eu henwau nhw wrth drafod â'r bwrdd iechyd. Ers blynyddoedd, mae yna ddiwylliant o guddio materion dan y carped; o ddiffyg tryloywder; o greu ofn ymhlith staff sydd am siarad allan, ac, yn anffodus, mae hyn yn mynd yn waeth yn hytrach na gwella, er gwaetha'r holl ymyriadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd o du Llywodraeth Cymru. Dydy'r cyhoeddiad ddoe ddim am wella'r diwylliant yna, ac mae'r diwylliant yna wrth wraidd llawer o'r problemau.

Mae'r sefydliad angen newid drwyddo draw er mwyn gyrru'r newid anferth sydd ei angen. Mae angen gweithredu brys ar draws y sefydliad i greu diwylliant agored, sydd yn croesawu mewnbwn staff, nid un sy'n ceisio eu tawelu nhw, ac yn sicr, mae angen meddwl o ddifrif a ydy'r model presennol yn ffit i bwrpas. A dyna bwrpas ein gwelliant ni, a dwi'n falch o gael cefnogaeth trawsbleidiol yn y Siambr yma iddo fo. Felly, dwi yn erfyn arnoch chi i feddwl o ddifrif am yr awgrym yma rydyn ni'n rhoi gerbron efo'n gilydd heddiw yma. Dwi'n erfyn arnoch chi i droi pob carreg—pob carreg—i greu gwelliant. Gwrandewch ar beth mae'r staff rheng flaen yn ei ddweud. A, plis, a wnewch chi gydnabod, yn ddiamod, fod y sefyllfa yn un ddifrifol iawn, iawn?