Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad, ac a gaf fi ddiolch ichi hefyd am wneud y gyfres honno o awgrymiadau adeiladol iawn? Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr ail o'r rheini, sydd i'w weld yn adlewyrchu yn union y math o sgwrs y gofynnwn amdani ynglŷn â sut y gallai ad-drefnu weithio a'r manteision a allai ddeillio o hynny. A wnewch chi gadarnhau eich bod yn bwriadu cefnogi'r gwelliant hwnnw gennym heddiw?