Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 8 Mehefin 2022.
Yn anffodus, mae gofal iechyd yn Nyffryn Clwyd, yn llanastr gwirioneddol ac mae wedi bod felly ers blynyddoedd lawer bellach, wrth i Lywodraethau Llafur olynol fethu cael rheolaeth ar faterion recriwtio. Nid oes ond raid ichi edrych ar wefan Betsi Cadwaladr. Rwy'n credu, ar hyn o bryd, fod yno oddeutu saith neu wyth tudalen o swyddi gwag, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt, a bod yn onest, yn staff rheng flaen sy'n gwneud y newid i fywydau pobl o ddydd i ddydd. Rydym yn dda iawn am greu rheolwyr a biwrocratiaeth yn y GIG, ond yn wael iawn am roi staff ar y rheng flaen.
Roedd Ysbyty Glan Clwyd, fel y dywedais ddoe, yn arfer bod yn un o'r ysbytai gorau yn y Deyrnas Unedig yn yr 1980au a'r 1990au, nes i Lywodraeth Cymru gael eu dwylo arno. Nawr mae angen arbenigedd datblygu allanol, clinigol a sefydliadol ar yr ysbyty er mwyn darparu amgylchedd gwaith diogel a thriniaethau diogel i fy etholwyr.
Nid yw'r problemau sy'n wynebu gofal iechyd yn Nyffryn Clwyd yn newydd, maent wedi bodoli ers ad-drefnu trychinebus Jane Hutt bron i 20 mlynedd yn ôl, ac ad-drefnu Edwina Hart yn 2009. Mae wedi peri i lawer o bobl gwestiynu a oedd creu awdurdod iechyd mwyaf Cymru yn ffordd synhwyrol o fynd ati, ac i ofyn a yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn addas i'r diben. Wedi'r cyfan, mae'r bwrdd wedi bod angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth am y rhan fwyaf o'i fodolaeth. Treuliodd bum mlynedd dan drefn mesurau arbennig cyn iddo gael ei dynnu allan o ymyrraeth uniongyrchol gan y Llywodraeth ychydig cyn yr etholiad diwethaf, fel y nododd Sam Rowlands wrth agor y ddadl, gweithred o gyfleustra gwleidyddol yn hytrach nag arwydd fod popeth yn hyfryd ar y brig. Gwn o brofiad personol nad oedd hynny'n wir, gan fy mod wedi gweithio i Betsi Cadwaladr am 11 mlynedd, rhwng 2010 a 2021, pan gefais fy ethol i'r Senedd. Roeddwn yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd am lawer o'r blynyddoedd hynny, ac mae llawer o fy ffrindiau'n dal i weithio yno. Roeddem yn gwybod bod pethau wedi mynd o'i le ar y brig, ac eto, er gwaethaf y diwylliant a'r arweinyddiaeth wael, parhaodd ein cleifion i gael gofal rhagorol. Ond roedd llai a llai o bobl am ddod i weithio i'r hyn yr oeddent yn ei ystyried yn fwrdd iechyd a oedd yn methu, oherwydd os ydych yn ceisio camu ymlaen yn eich gyrfa, nid yw'n edrych yn dda iawn ar y CV os ydych wedi cael eich cyflogi gan fwrdd iechyd sy'n methu ers sawl blwyddyn. Felly, dyfnhaodd y problemau wrth i lai a llai o staff weithio ar y rheng flaen, a daeth y pwysau ar staff i fod yn annioddefol ac yn anghynaliadwy. A dyna pryd y mae diogelwch cleifion yn dechrau dioddef go iawn.
Mae fy mag post yn orlawn o broblemau yn Ysbyty Glan Clwyd ac fel y dywedais o'r blaen, Weinidog, mae croeso mawr unrhyw bryd i chi ddod i fy swyddfa i weld fy mewnflwch a gweld beth rwy'n ymdrin ag ef bob dydd, ac rwy'n siŵr bod Darren yng Ngorllewin Clwyd a Sam Rowlands, Mark Isherwood, Janet Finch-Saunders i gyd yn cael yr un profiad, ac Aelodau eraill o bleidiau eraill yn ogystal. Un o'r achosion diweddaraf a gefais oedd etholwr a gafodd gwymp gartref ychydig cyn 10.00 a.m. Fe'u cynghorwyd gan y rhai sy'n ateb galwadau ambiwlans i aros ar y llawr oer tan i ambiwlans gyrraedd, er eu bod yn dweud y byddai'r ambiwlans yn cymryd awr i gyrraedd. Cyrhaeddodd ambiwlans am 3.30 yn y prynhawn, ond nid oedd ei gyfarpar codi cleifion yn gweithio. Cyrhaeddodd ambiwlans arall awr yn ddiweddarach. Dywedodd parafeddygon, er nad oeddent yn amau bod asgwrn wedi'i dorri ac nad oedd yn gwaedu, fod ei phwysedd gwaed a'i siwgr gwaed bellach mor isel fel y byddai angen iddi fynd i'r ysbyty ar ôl cymaint o amser ar y llawr. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, aeth chwe awr arall heibio cyn ei derbyn i Ysbyty Glan Clwyd. Symudwyd y claf i ward yr uned feddygol acíwt yn y pen draw. Yn y diwedd, cafodd y teulu alwad dridiau'n hwyr yn dweud wrthynt am ddod i'r ysbyty'n gyflym. Fe wnaethant gyrraedd yn rhy hwyr—roedd yr aelod o'u teulu wedi marw. Felly, nid oedd yn fawr o syndod i mi pan ryddhawyd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Roedd yn dal i fod yn frawychus. Mae'r llinell fwyaf damniol yn yr adroddiad yn cyfeirio at graidd y broblem—roedd arweinwyr yr adran wedi ceisio codi pryderon ynghylch materion yn ymwneud â diogelwch cleifion, ond ni wrandawyd ac ni weithredwyd ar y rhain.
Mae'r pysgodyn yn pydru o'r pen, ac mae'r drewdod o Betsi yn llethol. Mae arnom angen newid ar y brig a hynny ar frys, a dim ond aildrefnu'r cadeiriau haul ar y Titanic yw'r mesurau a amlinellwyd gan y Gweinidog ddoe. Mae arnom angen dull gweithredu newydd, nid mwy o'r un peth, a dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw, ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i wneud yr un peth. Diolch yn fawr iawn.