Tlodi Bwyd ym Mlaenau Gwent

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:39, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n diolch i Alun Davies am y cwestiwn yna. Mae buddsoddiad parhaus mewn prosiectau bwyd cymunedol, gan gynnwys banciau bwyd, ynghyd â chynlluniau i leihau llwgu yn ystod y gwyliau, ymysg y camau sy'n cael eu cymryd ym Mlaenau Gwent. Fel ardal sydd â lefelau uchel o dlodi mewn gwaith, bydd yn flaenllaw yn ein hymrwymiad i gael prydau ysgol am ddim i bob disgybl oedran cynradd.