Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Mehefin 2022.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn. Llywydd, cafodd y cynnydd ei nodi yn yr adroddiad blynyddol ar ein rhwydwaith tramor, a gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf. Roedd yr adroddiad yn cofnodi canlyniadau yn erbyn y strategaeth o ran codi proffil rhyngwladol Cymru, cefnogi masnach ryngwladol, a sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.