Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 14 Mehefin 2022.
Mae'n mynd ymlaen i ddweud y byddai'n anfaddeuol os byddai Cymru yn colli'r cyfle euraidd hwn. Gwn fod Adam Price wedi holi am hyn wythnos diwethaf, ond, gyda dros wythnos wedi bod ers y gêm hanfodol honno, pa gefnogaeth sydd eisoes wedi'i rhoddi gan Lywodraeth Cymru i'r gymdeithas bêl-droed, a pha gefnogaeth fydd yn cael ei rhoddi dros y misoedd nesaf?