Cefnogaeth i'r Sector Ynni Alltraeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:26, 14 Mehefin 2022

Diolch yn fawr i Paul Davies, Llywydd. Rydym yn cefnogi'r sector drwy gyllid uniongyrchol ar gyfer ymchwil mewn technolegau cychwynnol a buddsoddi mewn seilwaith. Rydym yn gweithio gyda'r diwydiant i ddarparu trefn gydsynio sy'n gefnogol i'r sector, gan fodloni ein rhwymedigaeth amgylcheddol hefyd. Rydym yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi'r dyfodol.