Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 14 Mehefin 2022.
Gweinidog, yn anffodus, ddiwedd yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid i mi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty y Faenor ar ôl cael cyngor gan fy meddyg. Gadewch i mi fod yn glir nad yw'r hyn yr wyf i ar fin ei rannu â'r Senedd yn feirniadaeth o gwbl ar y staff, oherwydd yr oedd pob un person y siaradais ag ef, o'r derbynnydd i'r nyrsys gweithgar, yn hollol wych, ac ni allaf eu beio nhw o gwbl. Cyn fy ethol y llynedd, roeddwn i wedi clywed y newyddion, fel llawer o bobl y tu allan i'r Siambr hon, ac wedi darllen yn y papurau, ac ar ôl cael fy ethol yma, mae mwy a mwy o drigolion y de-ddwyrain wedi dod ataf i a siarad am eu dadrithiad gydag ysbyty y Faenor. Ac rwy'n sefyll o'ch blaen chi heddiw i gytuno â phob un ohonyn nhw fod ysbyty y Faenor, heb amheuaeth, mewn anhrefn.
O ran cefndir, rwyf i eisiau'ch gwneud chi'n ymwybodol fy mod i wedi ffilmio fy holl brofiad tra'r oeddwn i yno—gallwch chi ei alw'n fersiwn fy hun o fy exposé Panorama—a gwnes i hyd yn oed ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe. Ni ddywedais wrth neb fy mod i'n mynd i'r ysbyty, ac roeddwn i'n gwisgo gorchudd wyneb drwy'r amser fel na fyddai neb yn fy adnabod, gan nad oeddwn i eisiau cael fy nhrin yn wahanol i neb arall oherwydd fy mod i'n Aelod o'r Senedd. Daeth yn amlwg iawn yn gyflym iawn fod y problemau'n dechrau cyn i chi gyrraedd yr ysbyty hyd yn oed. Yn gyntaf, fel rhywun â throed a oedd yn ddwywaith ei maint, ac mewn poen, bu'n rhaid i mi barcio ymhell iawn i ffwrdd o'r prif adeilad mewn maes parcio atodol gan nad oedd dim lle hyd yn oed yn agos at y drysau i barcio car. Yn ffodus, roeddwn i'n gallu hercian i'r fynedfa, ond sut y gall unrhyw un ohonom ni ddisgwyl i rywun sy'n ddifrifol wael, yn anabl neu'n oedrannus gerdded yr holl ffordd y gwnes i? Roedd un fenyw yr oeddwn i wedi siarad â hi, a oedd yno gyda phoenau difrifol yn y frest, wedi gorfod brwydro gyda thrafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr ysbyty oherwydd cafodd hi wybod nad oedd ambiwlansys ar gael.
Mae hyd yn oed ceisio dod o hyd i'r adran damweiniau ac achosion brys fel ceisio cerdded drwy ddrysfa y byddai hyd yn oed Harry Potter yn ei chael yn anodd, oherwydd mae'n amlwg nad oedd unrhyw arwyddion o'r fynedfa i'r adran damweiniau ac achosion brys ei hun. Cerddais drwy'r brif fynedfa, yna crwydrais o amgylch gwahanol goridorau ac adrannau, siaradais â gwahanol aelodau o staff cyn cael fy arwain i'r lle iawn. Yr uchafbwynt ar ôl cerdded drwy'r hyn a oedd teimlo fel yr ysbyty cyfan oedd cael fy anfon allan eto i gymryd fy nhymheredd, dim ond i gerdded yn ôl i mewn eto a chael gwybod gan ddarn bach o bapur y gallwn i fynd i mewn a gwneud fy apwyntiad. Nid oedd yn rhaid i'r ffrind a oedd gyda mi, a gerddodd wrth fy ochr i drwy'r amser, gymryd unrhyw un o'r profion.
Hwn oedd y tro cyntaf i mi yn ysbyty y Faenor, ac i unrhyw un nad yw wedi bod yno o'r blaen, pan fyddwch chi'n cyrraedd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, rydych chi'n cael eich cyfarch ag ystafell aros frawychus o fach, y mae'n amlwg nad yw'n addas ar gyfer ysbyty sy'n cwmpasu ardal fel y de-ddwyrain. Ar ôl cael fy archwilio gan dderbynnydd hyfryd, cefais fy ngorfodi i eistedd ar garreg y drws gan nad oedd digon o gadeiriau y tu mewn. Eisteddais yno yn gwylio nifer cynyddol o ambiwlansys yn aros gyda chleifion y tu mewn iddyn nhw am gyfnod hir iawn. Diolch byth, nid oedd yn rhaid i mi aros yn hir i gael fy ngweld, ond roedd un dyn wedi bod yn aros am 17 awr cyn rhoi'r gorau iddi yn y diwedd a mynd adref gyda gwraig oedrannus arall a fu'n aros yno am bum awr.
Mae gen i fam oedrannus, Gweinidog, mam anabl, ac fel hi, mae llawer o bobl sy'n ddiabetig neu'n wan yn naturiol yn llwglyd ar ôl aros cyhyd am apwyntiad. Beth yw'r opsiynau os ydych chi eisiau tamaid i'w fwyta yn ysbyty y Faenor? Gadewch i mi ddweud wrthych chi. Un o'ch dewisiadau—