Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 14 Mehefin 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw ynglŷn â'r argyfwng costau byw cynyddol, sy'n cael ei deimlo yn enbyd gan y rhai mwyaf agored i niwed, gan bobl anabl a chartrefi incwm is. Dros yr wythnos diwethaf, rydym ni wedi gweld tystiolaeth bellach o ba mor gyflym y mae prisiau yn codi. Aeth y gost o lenwi car teulu o faint cyfartalog dros £100 am y tro cyntaf, ac, wythnos yn ôl i heddiw, fe welodd prisiau wrth y pwmp eu cynnydd undydd mwyaf mewn 17 mlynedd. Mae llawer iawn o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae gwaith gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi canfod bod tua 48,000 o gartrefi yng Nghymru eisoes yn wynebu biliau bwyd ac ynni sy'n fwy na'u hincwm gwario nhw. Yn anffodus, fe fydd yr argyfwng hwn yn gwaethygu wrth i ni nesáu at y gaeaf, gyda'r cap arall ar brisiau ynni yn codi ym mis Hydref, a allai ychwanegu £800 arall at filiau ynni.
Dirprwy Lywydd, yn y Llywodraeth rydym ni bob amser wedi canolbwyntio ar helpu pobl gyda chostau bob dydd drwy gyflwyno ystod eang o raglenni sy'n rhoi arian yn ôl yn eu pocedi nhw. Rydym ni'n darparu miloedd o frecwastau rhad ac am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd bob blwyddyn ac, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, fe fyddwn ni'n ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd o fis Medi ymlaen. Rydym ni'n darparu cymorth gyda chostau o ran danfon plant i'r ysgol. Mae ein talebau Cychwyn Iach ni'n rhoi gostyngiadau ariannol i deuluoedd ar eu neges nhw o'r siopau. Rydym ni'n cynnig nofio rhad ac am ddim i'r hen a'r ifanc, ac rydym ni'n cefnogi cannoedd o filoedd o bobl gyda biliau'r dreth gyngor yn flynyddol. Rydym ni'n helpu pobl i gael y budd-daliadau y mae ganddyn nhw'r hawl i'w cael nhw—rydym ni wedi cynnal dwy ymgyrch lwyddiannus 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ac mae'r un ddiweddaraf ym mis Mawrth wedi helpu pobl i hawlio mwy na £2.1 miliwn o incwm ychwanegol. Lansiwyd gwasanaethau cyngor ar fudd-daliadau ein cronfa gynghori sengl ni i helpu pobl i lywio'r system fudd-daliadau ddwy flynedd yn ôl. Ac mae ein cynllun Cartrefi Clyd ni wedi gwella effeithlonrwydd ynni cartref ar dros 67,000 o aelwydydd incwm is, ac mae dros 160,000 o bobl wedi cael cyngor effeithlonrwydd ynni ers ei lansio ef yn 2011. Rydym ni'n datblygu fersiwn nesaf y rhaglen ar hyn o bryd.
Ond mae'r argyfwng costau byw hwn yn un digynsail. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud bydd eleni yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers dechrau cadw cofnod o hynny. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud popeth yn ein gallu ni i helpu pobl yng Nghymru drwy'r argyfwng hwn, gyda chymorth a anelir at y rhai sydd â'r angen mwyaf amdano. Wrth i'r argyfwng waethygu, rydym ni wedi cyflwyno dau becyn newydd o fesurau sy'n unigryw i Gymru ac a anelir at y rhai y mae angen ein cymorth ni arnyn nhw fwyaf. Ychydig ddyddiau nôl, fe gyhoeddais i £4 miliwn i helpu pobl ar fesuryddion rhagdalu ac aelwydydd nad ydyn nhw'n cael nwy o'r prif gyflenwad—dau grŵp a adawyd allan o becyn mesurau diweddaraf y Canghellor. Rydym ni'n ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i ddarparu talebau tanwydd i helpu pobl ar fesuryddion rhagdalu sy'n wynebu caledi gwirioneddol. Fe fydd tua 120,000 o bobl yn gymwys. Mae pobl ar fesuryddion rhagdalu wedi cael eu taro yn arbennig o galed gan godiadau mewn taliadau sefydlog yn ystod y misoedd diwethaf; mae'r cynnydd wedi bod ar ei uchaf yn y gogledd. Bydd talebau gwerth £30 yn yr haf a £49 yn y gaeaf ar gael i bob aelwyd gymwys, ac fe fydd pobl yn gallu hawlio hyd at dair gwaith mewn cyfnod o chwe mis. Rydym ni hefyd yn lansio cronfa wres i helpu'r aelwydydd hynny nad ydyn nhw'n cael nwy o'r prif gyflenwad, y mae llawer ohonyn nhw'n byw yng nghefn gwlad Cymru, ac wedi gweld costau yn codi yn gyflym, gyflym iawn am olew neu nwy hylif, ac fe fydd hyn yn helpu tua 2,000 o aelwydydd ledled Cymru. Mae hynny ar ben y taliadau cymorth ar gyfer aelwydydd oddi ar y grid sydd ar gael drwy'r gronfa cymorth dewisol. Mae dros 1,000 o bobl wedi cael grantiau gwerth bron i £192,000 rhwng mis Hydref a mis Ebrill.
Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol £4.5 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth i ofalwyr dros y tair blynedd nesaf. Bydd gofalwyr di-dâl yn gallu gwneud cais am hyd at £500 i dalu am fwyd, eitemau cartref ac eitemau electronig. Dirprwy Lywydd, mae'r cymorth hwn ar ben ein cynlluniau eraill ni i Gymru gyfan, fel y taliad cymorth tanwydd gaeaf o £200 a'r taliad o £150 i bawb ym mandiau A i D y dreth gyngor, sy'n parhau i gael ei dalu i gyfrifon banc pobl heddiw. Y tu hwnt i'r cynlluniau hyn, rwyf i wedi cyfarfod â chyflenwyr ynni i drafod pa gymorth sydd ar gael i aelwydydd sy'n cael trafferth gyda biliau ynni a dyledion. Mae llawer o gwmnïau yn ariannu grantiau o hyd at £600 i aelwydydd sydd â phroblemau dyled hirdymor. Fe gefnogodd y cyflenwyr ein galwadau ni ar Lywodraeth y DU i ymestyn y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes a chyflwyno tariff cymdeithasol ynni ar gyfer aelwydydd incwm is. Rwyf i wedi cynnal uwchgynhadledd costau byw hefyd, wedi cadeirio bwrdd crwn tlodi bwyd, ac wedi cyfarfod â Fforwm Hil Cymru i ddeall effaith yr argyfwng ar ein cymunedau ni'n well. Fe fyddaf i'n cwrdd â'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn ddiweddarach y mis hwn ac fe fyddaf i'n cynnal uwchgynhadledd ddilynol ym mis Gorffennaf. Fe fydd yr holl ddigwyddiadau hyn yn helpu i lywio ein camau ni ac yn meithrin partneriaethau i gryfhau ein hymateb ni dros y misoedd nesaf.
Ond, Dirprwy Lywydd, yn Stryd Downing ac oherwydd camau gan Lywodraethau Ceidwadol olynol y mae'r argyfwng costau byw hwn yn tarddu, yn sicr. Llywodraeth y DU, gyda'i phwerau hi o ran trethu a budd-daliadau, sydd â'r gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r argyfwng hwn, ac fe ddylai hi wneud hynny. Mae angen i ni weld taliadau budd-daliadau yn cael eu huwchraddio ar fyrder i gyfateb i chwyddiant cynyddol a thariff ynni is ar gyfer aelwydydd incwm is, ac adfer cyllid ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn. Heb weithredu fel hyn, mae yna berygl gwirioneddol y bydd llawer iawn o deuluoedd yn wynebu'r dewis ofnadwy rhwng gwresogi neu fwyta yn ystod y gaeaf sydd i ddod. Mewn gwlad gyfoethog fel ein gwlad ni, dewis yw hwnnw na ddylai neb fyth orfod ei wneud.