Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 14 Mehefin 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu siarad heddiw am y cynnydd sy'n cael ei wneud ledled un o ardaloedd gwarchodedig pwysicaf Cymru, sef gwastadeddau Gwent. Fel Llywodraeth, mae ymdrin â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn. Rhaid i ni ddiogelu ein hamgylchedd i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau, a chwarae ein rhan ar y llwyfan byd-eang. Yn fyd-eang, mae natur yn dal i gael ei cholli ar gyfradd frawychus, ac mae'r sefyllfa yng Nghymru yn debyg, gyda dirywiad cyflym yn ein rhywogaethau a'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i helpu i wrthdroi'r dirywiad hwn, a dyna pam yr wyf i ar hyn o bryd yn gweithio ar ystyriaeth fanwl o fioamrywiaeth, sy'n canolbwyntio ar ein targed o 30x30, i ddiogelu o leiaf 30 y cant o'n tir a'n môr erbyn 2030.
Mae gwastadeddau Gwent yn rhan bwysig o'r cyfraniad at gyflawni'r uchelgais hwn, a rhaid canolbwyntio nawr ar wella cyflwr yr ardal warchodedig hon a'i ffiniau. Mae'r gwastadeddau o bwysigrwydd cenedlaethol am eu bioamrywiaeth a'u tirwedd, gan eu bod yn cael eu dynodi gan gyfres o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn ogystal â bod yn dirwedd o ddiddordeb hanesyddol eithriadol. Mae eu lleoliad, gerllaw Caerdydd a Chasnewydd, ac i mewn i sir Fynwy, hefyd yn eu gwneud yn ased diwylliannol a hamdden gwerthfawr i bobl leol ac ymwelwyr.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar gymryd camau i ddiogelu a rheoli gwastadeddau Gwent yn well, yn dilyn y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 yn 2019. Heddiw, rwyf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sy'n cael ei wneud a'r mesurau yr wyf i'n eu cefnogi i sicrhau bod gan y gwastadeddau'r lefel gywir o ddiogelwch a rheolaeth ar waith i ddiogelu eu diddordeb unigryw.
Ym mis Chwefror 2020, gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnal gweithgor ar wastadeddau Gwent, dan gadeiryddiaeth John Griffiths AS, i archwilio sut y byddai modd diogelu a rheoli'r gwastadeddau'n well. Mae'r grŵp erbyn hyn wedi hen ennill ei blwyf ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, llywodraeth leol, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, a grwpiau lleol eraill, ac mae wedi datblygu cynllun gweithredu strategol o'i flaenoriaethau cyffredin.
Ar ôl ymweld â'r gwastadeddau fis Gorffennaf diwethaf, a chwrdd ag aelodau'r gweithgor fis Medi diwethaf, mae eu brwdfrydedd a'u hymroddiad i ddiogelu a rheoli gwastadeddau Gwent wedi creu argraff fawr arnaf i. Mae'r dull partneriaeth hwn, sydd wedi'i fabwysiadu gan Bartneriaeth Tirlun y Lefelau Byw, wedi darparu cyflawniadau sylweddol ar lawr gwlad o ran adfer a rheoli cynefinoedd, yn ogystal â chyfranogiad ac ymgysylltiad helaeth gan y gymuned â natur a hanes diwylliannol yr ardal. Mae hyn yn enghraifft o'r dull partneriaeth sydd mor hanfodol ledled ardal neu dirlun, i ganolbwyntio'r camau niferus sydd eu hangen i wrthdroi colli bioamrywiaeth a helpu i adfer natur. Ers mis Gorffennaf, mae cynnydd da wedi'i wneud.
Rwy'n falch iawn o ddweud, diolch i waith caled Partneriaeth Tirlun y Lefelau Byw ac aelodau'r gweithgor, fod cyllid arall nawr wedi'i sicrhau i gefnogi'r bartneriaeth am 18 mis arall. Bydd hyn yn helpu'r bartneriaeth i ddatblygu trefniadau rheoli a gweledigaeth tymor hwy ar gyfer y gwastadeddau, yn ogystal â chydgysylltu mwy o waith adfer a gweithgareddau ymgysylltu parhaus.
Un o'r blaenoriaethau sydd wedi'i nodi gan y gweithgor yw helpu i fynd i'r afael â'r pwysau i ddatblygu ar safleoedd SoDdGA drwy ddatblygu sylfaen dystiolaeth a chanllawiau gwell i ddatblygwyr a chynllunwyr lywio penderfyniadau datblygu. Mae cael hyn yn gywir yn gwbl hanfodol i'r safleoedd SoDdGA hyn, ac yr wyf i wedi cymeradwyo datblygu canllawiau cynllunio strategol ar gyfer yr ardal, yr wyf i eisiau eu gweld yn cael eu datblygu'n gyflym. Hwn fydd y cynllun treialu cyntaf o ddull polisi 9 'Cymru'r Dyfodol' i ymgorffori ystyriaethau bioamrywiaeth yn rhagweithiol mewn polisïau cynllunio mewn ardaloedd rheoli adnoddau naturiol cenedlaethol yng Nghymru.
Nododd y gweithgor hefyd yr angen i gyflymu'r rhaglen o adfer a rheoli cynefinoedd ar y gwastadeddau, fel y gall barhau i gynnal bywyd gwyllt a chyflawni'r amrywiaeth enfawr o fanteision y mae'n eu gwneud, yn fyd-eang, gan gloi carbon, ac yn lleol, gan ddarparu lle naturiol a diwylliannol gyfoethog i bobl ei fwynhau. Gan ddefnyddio'r gwaith gwych sydd eisoes wedi'i gyflawni, bydd y bartneriaeth yn parhau i weithio gyda ffermwyr, rheolwyr tir a grwpiau gwirfoddol, sy'n hanfodol i lwyddiant y gwaith hwn.
Er mwyn cyfrannu at y gwaith o adfer a rheoli cynefinoedd, rwyf i wedi cytuno gyda'r Prif Weinidog i adolygu addasrwydd tir a gafodd ei gaffael ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall potensial bioamrywiaeth y safleoedd hyn yn well, a fydd yn helpu i lywio'r penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud ynghylch eu dyfodol. Rwy'n falch bod ymgynghorwyr nawr wedi'u penodi i lunio cynllun gwella strategol, a fydd yn dechrau gyda gwaith arolygu safleoedd yr haf hwn, ac a fydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Ac, fel soniwyd eisoes, rwyf i'n cynnal ystyriaeth fanwl o fioamrywiaeth ar hyn o bryd. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddull Cymru o weithredu fframwaith bioamrywiaeth byd-eang y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol ar ôl 2020 i ddiogelu 30 y cant o'n tir a 30 y cant o'n môr erbyn 2030. Byddaf i'n gofyn i gyfranogwyr sut y gallwn ni ddefnyddio ac ehangu'r cydweithio sydd wedi'i ddangos gan y bartneriaeth Lefelau Byw, a phartneriaethau tebyg eraill ledled Cymru, i sicrhau bod ein safleoedd gwerthfawr ni'n cael eu diogelu a'u rheoli'n effeithiol ar gyfer y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at rannu canlyniadau'r ystyriaeth fanwl o fioamrywiaeth a'i hargymhellion gydag Aelodau ym mis Medi, unwaith y bydd wedi dod i ben. Diolch.