Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 14 Mehefin 2022.
Diolch, John. Rwy'n gwybod, John, eich bod chi'n frwdfrydig iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gadeirio'r bartneriaeth Lefelau Byw, sydd yn sicr wedi ein helpu ni i'w symud ymlaen. Mae gwir angen i ni wella'r canllawiau cynllunio strategol ar gyfer y meysydd y gwnes i eu crybwyll o'r blaen. Ni allaf i wneud sylw ar nifer o geisiadau cynllunio sy'n weddill am resymau amlwg, felly nid wyf i'n mynd yn agos at hynny. Ond yn gyffredinol, fel y dywedais i, dyma fydd y cynllun treialu cyntaf o bolisi 9 'Cymru'r Dyfodol', y dull o brif ffrydio bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau mewn polisïau cynllunio, a sicrhau ein bod ni, fel rhan o'r cynllun treialu hwnnw o bolisi 9, yn cael y datblygiadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol cywir yn y lle cywir i wella'r fioamrywiaeth a chydnerthedd yr ecosystemau hynny. Mae hynny'n mynd i fod ar ffurf uwchgynllun ar gyfer yr ardal, ac mae gennym ni, fel y gwyddoch chi, ymgynghorwyr sy'n gweithio arno.
Rydym ni wedi ceisio barn—fel y gwyddoch, John, o weithgor Lefelau Byw Gwent—ar y dull llywodraethu sydd ei angen i gynrychioli'r buddiannau gwleidyddol a thechnegol sy'n gysylltiedig â datblygu'r polisi hwn a'r canllawiau cysylltiedig y mae eu hangen ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. Rwy'n gwbl benderfynol o wneud hon yn ardal dreialu ar gyfer y model hwn o bolisi llywodraethu a chynllunio, oherwydd mae hon yn ardal hollbwysig—ochr yn ochr â llawer o rai eraill yng Nghymru, wrth gwrs—o fioamrywiaeth a chydnerthedd. Mae'n ysgyfaint gwyrdd cyfres fawr o gytrefi trefol o amgylch ei ymylon, fel y gwyddoch chi, John, ac mae'n ffynhonnell gyfoethog o ddyddodi carbon a bioamrywiaeth. Mae'n enghraifft dda iawn o ddal carbon ar ffurf nad yw'n goeden hefyd, oherwydd, fel yr wyf i'n dal i ddweud wrth bobl, nid yw'r goeden ond yn symbol eiconig ar gyfer amrywiaeth eang o wahanol fathau o dirweddau ledled Cymru sy'n cynnal amrywiaeth o fioamrywiaeth. Rwy'n benderfynol iawn o roi'r cynllun treialu hwnnw ar waith. Byddwn ni'n cyhoeddi'r canllawiau cynllunio strategol ac yr wyf i dal yn ddiolchgar iawn am eich rhan chi yn cadeirio'r grŵp.