Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 14 Mehefin 2022.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n bryder, wrth gwrs, bod y cynllun uwchnoddwr wedi gorfod cael ei atal dros dro, gan ein bod ni'n gwybod mai dyma'r cynllun ble y gallwn ni warantu orau bod anghenion ffoaduriaid yn cael eu cwrdd, a bod eu diogelwch a lles yn cael eu diogelu. Rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi hefyd, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod y gefnogaeth briodol honno mewn lle, a bod oedi'r cynllun i ddatrys unrhyw rwystrau i ddarparu hynny, felly, yn beth cyfrifol i'w wneud. Ond o'r hyn rŷn ni wedi'i glywed gan awdurdodau lleol sydd â chanolfannau croeso yn eu hardaloedd, mae yna broblem wirioneddol, mae'n ymddangos, wedi codi gan fod yna ddiffyg llety ar gael ar gyfer y rhai sy'n barod i symud ymlaen o'r canolfannau croeso. Mae hyn, efallai, yn rhannol yn sgil y pwysau ar stoc tai awdurdodau lleol. Rŷn ni'n gwybod bod nifer y bobl ddigartref mewn llety dros dro yn cynyddu, a bod diffyg llety parhaol iddyn nhw yn rhwystr i leihau y nifer o bobl sydd mewn llety dros dro.
Felly, all y Gweinidog gadarnhau bod diffyg llety parhaol yn rhannol gyfrifol am yr oedi yn y cynllun uwchnoddwr, a beth yn union yw'r datrysiadau sy'n cael eu cynnig? Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod yr awdurdodau lleol, rheini sydd â chanolfannau croeso, a'r rhai sydd heb, yn cydweithio i ddatrys hyn? Y nod, wrth gwrs, yw ailgychwyn y cynllun uwchnoddwr, felly beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud nawr er mwyn sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei ddarparu yn y dyfodol o dan y cynllun yn ddigonol ac yn ymarferol bosib? Ydy'r Gweinidog yn ffyddiog na fydd angen oedi'r cynllun eto? Rŷch chi wedi sôn bod capasiti yn fater o bryder yn y canolfannau croeso, ac o gofio yr anhawster yma i ganfod llety parhaol i deuluoedd, beth fydd yn digwydd os bydd rhai sydd wedi derbyn fisa dan y cynllun uwchnoddwr yn cyrraedd tra bod y cynllun wedi'i oedi? Lle fyddan nhw'n mynd?
Mae nifer o adroddiadau yn y wasg dros yr wythnosau diwethaf sy'n sôn am ffoaduriaid yn wynebu anawsterau mawr, ac yn wir, rhai bellach wedi cael eu gwneud yn ddigartref wrth i drefniadau chwalu, naill ai yn sgil methiant yn y berthynas gyda'r rhai sy'n cynnig cartref, neu yn sgil materion yn ymwneud â llety amhriodol yn cael ei gynnig, a'r awdurdodau lleol wedyn, wrth gwrs, sy'n gorfod camu i'r adwy i gefnogi'r bobl yma. Ydy achosion fel hyn yn cael eu monitro gan y Llywodraeth? Os felly, beth yw’r darlun o ran hyn yma yng Nghymru? A beth hefyd yw'r cynlluniau ar gyfer canfod llety parhaol ar gyfer y ffoaduriaid sydd wedi cael eu noddi gan deuluoedd ar ôl i'w cyfnod o chwe mis o lety ddod i ben, a’r rhai sydd wedi cynnig eu cartrefi yn methu neu ddim am ymestyn y cyfnod hwnnw? O gofio hefyd nad yw cyllid yn cael ei ddarparu, fel y gwnaethoch chi sôn, gan Lywodraeth San Steffan i gefnogi cynllun uwchnoddi Llywodraeth Cymru, a all y Gweinidog sôn wrthym ni beth yw effaith hyn ar y cynllun, nawr bod nifer o wythnosau wedi mynd rhagddynt?
Rwyf wedi codi o'r blaen y pryderon am ddiffyg darpariaeth cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau trawma arbenigol i’r rhai sydd wedi ffoi o Wcráin. Mae elusennau'n rhybuddio bod anghenion yn dwysáu, o gofio sut mae'r rhyfel wedi datblygu. Felly, pa ddarpariaeth ychwanegol ac arbenigol sydd yn ei le ar gyfer y rhai sy’n cael noddfa yma yng Nghymru dan yr amrywiol gynlluniau noddi? O gofio bod y niferoedd o bobl yn cynyddu, fel rŷch chi wedi nodi, ydy'r Llywodraeth wedi adolygu digonolrwydd y gwasanaethau sydd ar gael, ac ymateb i unrhyw fylchau neu faterion yn ymwneud â chapasiti, er mwyn sicrhau bod y ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru, ac angen cefnogaeth o'r fath, yn cael eu cefnogi? Diolch.