Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 21 Mehefin 2022.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddor o sicrhau adnoddau i gwrdd, hyrwyddo ac ehangu'r galw am addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg, ac fe fuom ni'n lleisio ein pryderon am hyn yn ystod Cyfnod 1 a 2, pryderon a oedd wedi cael eu rhannu yng Nghyfnod 1 gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg. Roeddwn i'n falch wedyn o weld felly yn ystod Cyfnod 2 welliant cadarn i warantu bod angen i'r comisiwn nid yn unig gwrdd â'r galw, ond hefyd hyrwyddo, annog a sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydym yn gytûn gyda'r Llywodraeth bod y dyletswydd strategol sy'n cael ei grybwyll yng ngwelliant 11 yn ateb y pryderon, a bod gwelliannau 79 ac 80 yn amhriodol gan fod y cwestiwn o adnoddau yn rhan o'r dyletswydd strategol i annog y galw.
Os ydym am gyrraedd y miliwn o siaradwyr erbyn 2050, yna mae hyrwyddo manteision darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr a myfyrwyr, wrth gwrs, yn gwbl greiddiol. Mae angen i ni feithrin hyder dysgwyr bod llwybrau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn bosib iddynt, ac yn sicrhau bod y llwybrau hynny yn eu denu, ac y bydd y gefnogaeth briodol, wrth gwrs, yno ar eu cyfer.
Cefais fy nghalonogi hefyd yng Nghyfnod 2 yn enwedig o ran sylwadau'r Gweinidog am rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyn o beth, a'i berthynas gyda'r comisiwn. Wrth gwrs, rydym o'r farn bod yn rhaid i'r coleg benderfynu a chynghori ar sut i ddyrannu unrhyw adnoddau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy'r comisiwn, a'u bod yn cael eu sianelu felly drwy'r coleg. Roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn cadarnhau bod ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae i sicrhau dilyniant o addysg statudol i addysg ôl-16 drwy gydweithio gyda'r comisiwn. Felly, byddwn yn falch o gael cadarnhad o weledigaeth y Gweinidog yn hynny o beth y prynhawn yma.