Grŵp 4: Darpariaeth cyfrwng Cymraeg (Gwelliannau 79, 80)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:53, 21 Mehefin 2022

Diolch, Llywydd. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, dwi'n gwbl argyhoeddedig bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a rhaid i ni barhau i annog a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig yn ein sector addysg drydyddol. A gaf i longyfarch Laura Anne Jones ar ei defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr y prynhawn yma heddiw? 

Bydd Aelodau’n ymwybodol bod y dyletswydd strategol mewn perthynas â hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg wedi’i ddiwygio yng Nghyfnod 2, fel y soniwyd eisoes, gan ehangu'r dyletswydd i’w gwneud yn ofynnol i'r comisiwn annog y galw am a chyfranogiad mewn addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Er fy mod i’n croesawu cefnogaeth yr Aelod ar gyfer adnoddau i gynyddu cyfranogiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ni allaf gefnogi gwelliant 79 na gwelliant 80, gan fod darparu adnoddau wedi’i gynnwys yn y gofyniad i annog y galw am a chyfranogiad mewn addysg drydyddol a ddarperir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai nodi risg o ran adnoddau yn golygu bod y dyletswydd yn llai clir, gan y gallai gyflwyno amwysedd ynghylch a yw darparu adnoddau yn dod o fewn cwmpas y dyletswydd i annog galw.

O ran y cwestiwn oddi wrth Sioned Williams, mae'r memorandwm esboniadol nawr wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r hyn a gytunwyd yng Nghyfnod 2. Felly, mae'r esboniad ehangach ynghlwm yn hwnnw. 

Felly, rwy'n galw ar Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.